Mae’r actor Michael Sheen ymhlith nifer o sêr sy’n cymryd rhan mewn ymgyrch i atal plant rhag cael eu bwlio ar-lein.

Mae’r straeon amser gwely yn gyfres o ffilmiau byrion sy’n mynd i’r afael â materion fel trolio, hunan-niweidio a’r cyfryngau cymdeithasol.

Mae Michael Sheen yn adrodd y stori Annabelle And The Trolls.

Dywed yr elusen Papyrus eu bod nhw am dynnu sylw at beryglon deunydd niweidiol ar y we i bobol ifanc.

“Dw i’n eithriadol o falch o gael bod yn rhan o’r ymgyrch, sy’n tynnu sylw at y peryglon gwirioneddol mae pobol ifanc yn eu hwynebu yn ein byd sy’n gynyddol ddigidol,” meddai.

“Mae Bedtime Stories yn siarad â’r rhai sydd â phlant bach, neu â phobol ifanc yn eu bywydau, gan godi ymwybyddiaeth o sut mae’r amgylchfyd ar-lein yn gallu cael effaith ar iechyd meddwl y rhai sy’n ei ddefnyddio, ac yn eu hatgoffa fod Papyrus yma iddyn nhw pe bai angen cymorth a chefnogaeth arnyn nhw.”

‘Angen i bawb fod yn ymwybodol’

“Mae angen arnom fod pawb yn ymwybodol o’r effaith y gall bwlio ar-lein a chynnwys niweidiol ei chael ar iechyd meddwl plant a phobol ifanc,” meddai Ged Flynn, prif weithredwr Papyrus.

“Mae’n eu heffeithio nhw mewn sawl ffordd wahanol.

“Gall niweidio’u hunanhyder, eu lles emosiynol a gall achosi iddyn nhw deimlo’n ynysig a di-werth.

“Mae rhai pobol ifanc ddiniwed yn llithro i hunanfeirniadu a chasáu, all arwain yn y pen draw at ymddygiad sy’n ymwneud â hunanladdiad.

“Mae rhieni a gofalwyr yn gwneud yn dda i ymgysylltu â’u pobol ifanc yn nhermau’r hyn maen nhw’n ei wneud ar-lein, rhoi cefnogaeth a’u sicrhau eu bod nhw’n ddiogel ac wedi’u gwarchod.”

Hunanladdiad yw’r ffordd fwyaf cyffredin y mae dynion 45 oed yng ngwledydd Prydain yn marw.