Dyma gyfres sy’n cael cip ar gartrefi rhai o wynebau adnabyddus Cymru. Yr actor Rownd a Rownd a chanwr Cabarela Cymru, Meilir Rhys Williams, sy’n agor y drws i’w gartref yn Llanuwchllyn ger Y Bala yr wythnos hon…

Yr ystafell fwyta, sy’n eich croesawu i’r tŷ drwy’r portsh

Dw i’n byw yn fy mhentref genedigol, sef Llanuwchllyn. Pan symudais i’r coleg, wnes i fyth feddwl y buaswn i’n symud nôl adref ond dw i’n falch i ddweud bod fy meddylfryd wedi newid gryn dipyn ers hynny. Dw i wrth fy modd ac yn teimlo’n lwcus iawn i gael byw mewn pentref mor fywiog, cyfeillgar a phrydferth. Mae Llanuwchllyn yn reit unigryw yn y ffaith fod nifer o bobl yn dychwelyd yma i fyw ar ôl gadael coleg ac i fagu teuluoedd felly mae croestoriad eang o drigolion yn byw yma.

Rhwng y dafarn leol ‘Yr Eagles’, y Neuadd Bentref, y clwb pêl-droed, yr holl gapeli, yr ysgol a’r corau di-ri, mae yna wastad rywbeth ar y gweill neu ddigwyddiad i’w fynychu yma. Rydym ni’n hynod lwcus o’n Cyngor Plwy yn Llanuwchllyn a’r holl bobl sy’n gweithio’n galed i’w wneud yn le mor arbennig i fyw.

Y gegin

Dw i’n byw yn fy nghartref presennol ers tua 2020. Mae’n dŷ teras a gafodd ei adeiladu oddeutu 1760 pan oedd Yr Eagles dal yn fferm, a thollborth dal ar geg y pentref. Mae un elfen nodweddiadol i’r rhes, sef y brics melyn sydd uwchben y drysau a’r ffenestri. Mae rhes o dai arall union yr un fath yn Llanuwchllyn lawr Heol yr Orsaf. Dw i wrth fy modd efo’r tŷ – mae’n oer braf yn yr haf oherwydd y waliau cerrig mawr, ac yn gynnes glyd yn y gaeaf. Dw i wrth fy modd yn cael picnic yn yr ardd efo fy neiaint yn yr haf a swatio o flaen y log burner yn y gaeaf.

Yr ystafell ymolchi

Yn ffodus iawn i mi, doedd dim angen i mi wneud prin ddim gwaith adnewyddu pan symudais i mewn gan fod y perchnogion diwethaf wedi addurno’r lle yn weddol ddiweddar ac mor hyfryd. Dyma un o’r rhesymau wnes i neidio ar y cyfle i brynu’r lle yn gymharol gyflym. Yr unig newid wnes i oedd ffeirio safle’r lolfa efo’r ystafell fwyta. Bellach, yr ystafell fwyta sy’n eich croesawu i’r tŷ drwy’r portsh, sydd yn handi iawn pan fydd criw yn dod yma ar ôl i’r Eagles gau. Dim angen iddyn nhw gerdded drwy’r tŷ!

Meilir yn y lolfa, lle mae’n treulio’r rhan fwyaf o’i amser

Fy hoff ran o’r tŷ ydi fy lolfa. Dyma le dw i’n treulio y rhan fwyaf o fy amser pan nad ydw i’n cysgu! Pan fyddai’n teithio adre, dw i’n edrych ymlaen at gael eistedd ar fy soffa efo paned o de ac ymlacio. Mi fyswn i wrth fy modd yn dweud mai darllen llyfr yma ydw i, ond gwylio teledu, chwarae ar y PlayStation neu sgwrsio fyddai’n neud gan amla’.

Darlun o Joni Mitchell, hoff gantores Meilir

Mae gen i nifer o weithiau celf dw i’n eu trysori yma hefyd gan Hiwti, Lisa Eurgain Taylor, Mythsntits, Mefus Photography ac un darlun o Joni Mitchell (fy hoff gantores) wedi ei sgetsio â phensiliau lliw. Wnes i ddarganfod y llun yma ar-lein cyn sylweddoli fy mod yn adnabod yr artist ac mai hi oedd y Rheolwr Llwyfan yn fy swydd gyntaf ar ôl graddio yn Llundain! Ffawd – felly roedd rhaid i mi ei brynu.

Rhai o hoff eitemau celf Meilir gan Mythsntits, Lisa Eurgain Taylor, a Mefus Photography

Un eitem arbennig iawn i mi yn y tŷ yw gwaith celf gwreiddiol gan yr artist Iola Edwards o Fynydd Trysglwyn neu ‘Mynydd Parys’ fel mae nifer yn ei adnabod bellach. Rydw i wedi bod yn ffodus i alw Iola Edwards yn gymydog, athrawes a bellach yn ffrind ers i mi fyw yn Llanuwchllyn ac fe greodd hi gyfres o ddarluniau o olygfeydd Ynys Môn ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Bodedern 2017. Gan fod gen i gysylltiadau teuluol ag Amlwch, y darlun hwn o’r tŵr ar ben Mynydd Trysglwyn – sydd mor gyfarwydd i mi a fy nghysylltiad gyda’r artist – fe neidiais ar y cyfle i’w brynu. Bob tro fyddai’n edrych ar y gwaith celf, dw i’n teimlo fel taswn i’n blentyn bach unwaith eto ar fy ffordd i weld Nain a Daid Amlwch yn y car yn pasio’r mynydd, gan wybod ein bod ni bron â chyrraedd Amlwch.

Gwaith celf gwreiddiol gan yr artist Iola Edwards o Fynydd Trysglwyn, sy’n un o hoff eitemau celf Meilir

Pan fuodd Nain Sali, sef Nain Amlwch farw nôl yn 2021, roedd rhaid i ni werthu’r tŷ a oedd yn rhan mor fawr o’n bywydau ni i gyd fel teulu estynedig. Ond buan wnes i sylweddoli nad ydi tŷ yn ddim ond brics a mortar heb y bobl ynddo fo i’w wneud yn gartref ac mae rhywun yn mynd â’r atgofion efo nhw ar ôl cau drws y tŷ. Felly dyna pam dw i wrth fy modd yn diddanu ffrindiau acw. Dw i’n pwysleisio wrthyn nhw fod wastad groeso i unrhyw un alw am baned a sgwrs. Ambell waith ar ôl i’r Eagles gau, mi fydd y sgyrsiau ar eu hanner felly mi fyddai’n gwahodd pawb acw am night cap neu i ddawnsio. Mae’r llawr pren yn yr ystafell fwyta yn hawdd iawn i’w lanhau ar ôl parti’r noson gynt! Dw i eisiau llenwi’r tŷ hefo atgofion i’w trysori.

Yr ystafell fwyta lle mae Meilir yn hoffi diddanu ei ffrindiau
Coasters Dolly, Lily Savage, Dame Edna, a Divine