Ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae Sadwrn Barlys, digwyddiad unigryw yn Aberteifi, wedi cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn olaf mis Ebrill.
Y llynedd, roedd y digwyddiad wedi denu torf o 3,500 i’r dref yng Ngheredigion, gan roi hwb i fusnesau Aberteifi.
Wrth i’r trefnwyr baratoi ar gyfer y digwyddiad heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 27) mae Tudor Harries, Ysgrifennydd Sadwrn Barlys, wedi mynegi pryderon am ddyfodol y digwyddiad oherwydd costau cynyddol.
Mae cofnod cyntaf y digwyddiad yn dyddio’n ôl i 1871, pan fyddai ffermwyr yr ardal yn dod i’r dref i gyflogi gweithwyr, a pherchnogion ceffylau yn arddangos eu meirch yn y gobaith o gael busnes.
Prif atyniad y digwyddiad erbyn hyn yw gorymdaith y meirch o gwmpas y dref. Mae hefyd arddangosfa o hen dractorau, ceir a beiciau modur.
‘Talcen caled’
Ond yn ôl Tudor Harries, mae rheoleiddiadau newydd yn ymwneud ag iechyd a diogelwch, ymhlith pethau eraill sydd wedi cael eu cyflwyno gan Gyngor Sir Ceredigion, “yn dalcen caled ac yn dalcen drud”.
“Mae cost y digwyddiad wedi mynd tu hwnt i unrhyw sens, a dw i ddim yn siŵr os gallwn ni gynnal y digwyddiad oherwydd y costau cynyddol,” meddai.
“Mae’r Cyngor eisiau i ni fynd ar gyrsiau i fod yn gymwys i stiwardio, ond mae’r rhai sy’n stiwardio yn wirfoddolwyr a dydyn nhw ddim eisiau gwneud cwrs, sy’n gostus hefyd.
“Rydyn ni’n mynd i gyrraedd man lle dyn ni methu fforddio cynnal e, a dw i’n ofni’r gwaetha’.
“Rydyn ni wedi bod yn lwcus iawn, mae lot o fusnesau ac unigolion yr ardal yn noddi’r sioe, ond dim ond canran o’r costau yw hynny.
“Y llynedd fe gostiodd £15,000 i gynnal y sioe ac, o ran y noddwyr, roedd yr arian yna yn llai na hanner y gost.
“Mae’r gost eleni yn siŵr o fod yn agosach at £18,000.
“Dyn ni’n casglu ar y stryd ond mae hwnnw’n mynd at elusennau lleol a’r Ambiwlans Awyr.
“Mae Cyngor y Dre yn noddi ni hefyd ond dyn ni’n cael dim gan y Cyngor Sir.
“Dros y blynyddau, dyn ni wedi rhoi arian naill ochr for a rainy day, ond mae’r costau’n cynyddu bob blwyddyn, a ni wedi cyrraedd pwynt lle nad ydy’n gynaliadwy.”
‘Dod â lot o arian i’r dre’
“Mae’r sioe yn dod â lot o arian mewn i’r dre, dw i’n deall bod pobol yn dod o Loegr i aros yn rhai o’r gwestai lleol eleni,” meddai Tudor Harries wedyn.
“Uchafbwynt y dydd yw mynd â’r meirch ar gylchdaith rownd y dre’, ac wedyn mae’r meirch yn rhedeg lan Stryd Pendre – dyna beth sy’n gwneud e’n ddigwyddiad unigryw.”
Mae’n cydnabod fod peryglon ynghlwm â’r digwyddiad yn dilyn damwain y llynedd, pan gafodd dynes oedd yn gwylio’r orymdaith ei bwrw i’r llawr gan geffyl oedd wedi torri’n rhydd.
Ond mae’n dweud bod “rhaid i’r cyhoedd sylweddoli mai anifeiliaid ydyn nhw, ac mae eisiau dangos parch atyn nhw a’r tywyswyr”.
“Gobeithio y bydd pobol yn joio, ond yn parchu’r ymdrech sy’n mynd mewn iddo fe a’r anifeiliaid.”
‘Diogel a chydymffurfiol’
“Cyfrifoldeb y rhai sy’n trefnu unrhyw ddigwyddiad yw sicrhau bod pob agwedd yn cydymffurfio yn gyfreithiol, a bod unrhyw agweddau Iechyd a Diogelwch sy’n ofynnol gan randdeiliaid yn cael eu cwrdd,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion.
“Nid yw’r Cyngor yn ymwybodol o ba agweddau penodol ar y gofynion hynny y mae’r trefnwyr yn teimlo sy’n ormodol a byddai’n croesawu trafodaeth gyda nhw mewn perthynas â’r rheini.
“Ar hyn o bryd, nid yw’n glir a yw’r gofynion hynny yn rhai y mae’r Cyngor wedi gofyn amdanyn nhw, neu randdeiliaid/ymgyngoreion eraill sydd â diddordeb mewn sicrhau bod y digwyddiad yn cael ei gynnal yn ddiogel ac yn cydymffurfiol.”
- Bydd Sadwrn Barlys yn dechrau hanner awr yn gynt eleni, gyda beirniadu’r ceffylau yn dechrau am 11yb yn lle 11.30yb, a’r orymdaith am 2yp.