Mae cais gan un o lofruddwyr James Bulger am barôl wedi cael ei wrthod.

Cafodd y bachgen bach dwy oed o Lerpwl ei lofruddio gan Jon Venables a Robert Thompson ar ôl iddyn nhw ei gipio o ganolfan siopa yn 1993.

Cawson nhw eu carcharu am oes, ond eu rhyddhau yn 2001 ar ôl cael enwau a hunaniaeth newydd.

Cafodd Jon Venables ei garcharu eto yn 2010 a 2017 am fod â delweddau anweddus o blant yn ei feddiant.

Mae e wedi treulio dros hanner ei ddedfryd o 40 mis dan glo erbyn hyn.

Bydd modd iddo wneud cais arall ymhen dwy flynedd.

Roedd Denise Fergus, mam James Bulger, wedi bod yn rhybuddio’r Bwrdd Parôl fod Jon Venables yn dal yn beryglus, gan bwysleisio nad oedd yn edifar am lofruddio’i mab ac nad oes unrhyw obaith y bydd yn dysgu gwersi.

Mae Ralph Bulger, tad James, hefyd wedi croesawu’r penderfyniad.