Mae disgwyl i’r BBC gyhoeddi canllawiau ynghylch defnydd eu staff o wefan gymdeithasol Twitter.

Daeth cadarnhad o’r bwriad gan Tim Davie, Cyfarwyddwr Cyffredinol y Gorfforaeth, wrth iddo fynd gerbron pwyllgor seneddol heddiw (dydd Mawrth, Medi 29).

Bydd y canllawiau newydd yn galluogi’r BBC i atal cyfrifon unrhyw un sy’n torri’r rheolau, meddai.

Mae sawl cyflwynydd a newyddiadurwr, gan gynnwys Gary Lineker ac Andrew Neil, wedi bod dan y lach yn ddiweddar am drydar negeseuon sy’n codi amheuon ynghylch pa mor ddi-duedd ydyn nhw.

Dywed Tim Davie y bydd y canllawiau’n berthnasol i staff newyddion a materion cyfoes a thu hwnt, ac y bydd “polisïau gorfodi’n glir iawn”.

“Byddwn ni’n gallu cymryd camau disgyblu,” meddai.

“Byddwn ni’n gallu tynnu pobol oddi ar Twitter.

“Dw i’n gwybod fod pobol eisiau gweld gweithredu llym yn hyn o beth.”