Mae chwaraewyr Clwb Pêl-droed Casnewydd yn aros am ganlyniadau eu profion coronafeirws cyn eu gêm fawr yn erbyn Newcastle yng Nghwpan Carabao, sy’n cael ei darlledu’n fyw gan Sky Sports nos yfory (nos Fercher, Medi 30).

Casnewydd yw’r unig glwb o’r Ail Adran yn 16 ola’r gystadleuaeth sy’n dal i aros am ganlyniadau’r profion gorfodol.

Bu’n rhaid i Leyton Orient dynnu’n ôl o’r gystadleuaeth cyn herio Spurs yr wythnos ddiwethaf yn dilyn sawl prawf positif.

Osgoi ailadrodd problemau

Yn ôl Mike Flynn, rheolwr Casnewydd, mae’n awyddus i ailadrodd problemau Leyton Orient.

“Rydyn ni wedi dilyn y protocolau a’r gweithdrefnau,” meddai.”Mae angen canmol ein meddyg a’n ffisio sydd wedi bod yn wyliadwrus iawn o ran yr hyn sydd angen i ni ei wneud.

“A hefyd y chwaraewyr eu bod nhw wedi bwrw iddi ac wedi addasu, a heb wneud ffwdan o’r peth.

“Dydych chi ddim yn mynd i atal popeth ond os ydyn ni’n dilyn y gweithdrefnau a’r protocolau cywir, bydd hynny, gobeithio, yn cyfyngu ar faint o bobol allai gael eu heintio.”