Mae Undeb Rygbi Cymru wedi gwneud tro pedol ar y penderfyniad i atal plant mewn un ardal lle mae cyfyngiadau lleol rhag hyfforddi gyda’u clybiau lleol.

Wedi i ddeiseb yn galw am newid gasglu bron i 5,000 o lofnodion, mae’r Undeb wedi cyhoeddi y bydd modd i glybiau yn ardal Bwrdeistref Sirol Caerffili hyfforddi wedi’r cyfan.

Ond bydd yr Undeb yn parhau i adolygu’r sefyllfa yn yr ardaloedd eraill sydd dan gyfyngiadau lleol.

Daw hyn er bod Llywodraeth Cymru yn caniatáu dosbarthiadau awyr agored a chwaraeon tîm ar gyfer hyd at 30 o bobol yn yr ardaloedd sydd dan gyfyngiadau lleol.

Dydy Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddim wedi gwahardd sesiynau hyfforddi yn yr ardaloedd dan gyfyngiadau lleol.

‘Lles meddyliol a chorfforol’

Cafodd y ddeiseb ei chreu ddydd Sul (Medi 27) gan Wayne David, hyfforddwr yng Nghlwb Rygbi Canton yng Nghaerdydd.

Eglurodd Wayne David mai “lles meddyliol a chorfforol” y plant ddylai fod yn brif flaenoriaeth.

Mae’n dadlau nad yw sesiwn hyfforddi rygbi yn ddim gwahanol i wers ymarfer corff yn yr ysgol.

“Mae’n annheg cael gwared ar hyn [sesiynau hyfforddi], i rai plant dyma’r unig ymarfer corff a rhyngweithio cymdeithasol maen nhw’n cael ond mae’n mynd yn erbyn argymhellion y llywodraeth,” meddai.

‘Chwarae ein rhan’

Mae’n ofynnol i glybiau rygbi yng Nghasnewydd, Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg, Abertawe a rhannau o Lanelli ddilyn canllawiau Undeb Rygbi Cymru.

“Bydd yr holl hyfforddiant rygbi cymunedol yn y Bwrdeistrefi Sirol hynny yn cael ei atal nes bydd rhybudd pellach yn unol â’r wybodaeth ddiweddaraf gan y Llywodraeth,” meddai Undeb Rygbi Cymru mewn datganiad.

“Er ein bod yn cydnabod bod ysgolion ar agor, rydym am chwarae ein rhan wrth leihau trosglwyddo cymunedol, ein blaenoriaeth yw lles chwaraewyr ac iechyd y cyhoedd.

“Gall clybiau a thimau o bob oed yng Nghaerffili ddychwelyd i hyfforddi os ydyn nhw’n teimlo y gallan nhw ddarparu amgylchedd diogel i chwaraewyr, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr.”

Cefndir

Rhoddodd Undeb Rygbi Cymru derfyn ar y tymor rygbi ym mis Mawrth oherwydd y coronafeirws.

Yn ystod y misoedd diwethaf mae Undeb Rygbi Cymru wedi amlinellu cynlluniau er mwyn sicrhau bod modd i rygbi ddychwelyd yn saff.

Cafodd gemau darbi traddodiadol eu cynnal mewn stadiymau gwag ddechrau fis Awst Nghymru