Mae tîm Ineos wedi cadarnhau mai Geraint Thomas fydd yn arwain y tîm Ineos yn y Giro d’Italia.

Daw hyn ar ôl i Geraint Thomas a Chris Froome gael eu gadael allan o dîm Ineos ar gyfer y Tour de France eleni.

“Rwy’n teimlo’n gyffrous ac yn barod i arwain y tîm eto yn yr Eidal”, meddai Geraint Thomas.

“Mae hi wedi bod yn flwyddyn ryfedd i bawb ond mae’n wych cael y nod mawr hwn.”

Wythnos diwethaf gorffenodd Geraint Thomas yn bedwerydd yn nhreial amser y dynion ym mhencampwriaethau ffordd y byd UCI yn San Marino.

Hefyd yn nhîm Ineos ar gyfer y Giro d’Italia mae Jonathan Castroviejo, Rohan Dennis and Filippo Ganna, Tao Geoghegan Hart, Jhonatan Narváez, Salvatore Puccio a Ben Swift.

Mae’r ras yn dechrau yn Palermo ar Hydref 3.