Methu o drwch blewyn i gipio medal a wnaeth Geraint Thomas wrth iddo orffen yn bedwerydd yn nhreial amser y dynion ym mhencampwriaethau ffordd y byd UCI yn San Marino.

Ei gyd-aelod o dîm Ineos, yr Eidalwr Filippo Ganna, a enillodd y fedal aur wrth gwblhau’r cwrs 31.7km mewn 35 munud 54 eiliad. Cipiodd Wout van Aert fedal arian i Wlad Belg ar ôl dod 26 eiliad yn arafach, a chafodd Stefan Kung y fedal efydd i’r Swistir.

Dim ond o wyth eiliad y methodd y Cymro â chyrraedd y podiwm, ond er bod hynny’n siom iddo, roedd yn berfformiad cryf wyth diwrnod cyn i’r Giro d’Italia gychwyn yn Palermo.

“Fe ddois i yma gan fod arnaf eisiau cael y canlyniad gorau bosib, sef ceisio ennill neu bod ar y podiwm,” meddai. “Fe fethais i hynny, ond mae’r coesau’n edrych yn eithaf da.”

Roedd ei dasg yn fwy anodd gan y bu’n rhaid iddo wneud y treial heb ei gyfrifiadur ar ei feic yn sgil dryswch ar y cychwyn.

“Doedd gen i ddim cliw am bellter nac amser, ro’n i’n reidio’n ddall, felly dw i’n eithaf hapus sut aeth pethau.

“Roedd hi ychydig yn anodd canolbwyntio yn y rhan olaf, oherwydd mae’r rhifau’n helpu’ch cadw chi i fynd – ond dim esgusodion. Fyddwn i ddim wedi ennill, Garmin neu ddim Garmin.”