Mae goliau yn yr hanner cyntaf gan Andre Ayew a Jamal Lowe wedi sicrhau buddugoliaeth o 2-0 i Abertawe oddi cartref yn Wycombe y pnawn yma.

Mae’n golygu bod yr Elyrch wedi ymestyn eu record diguro ar gychwyn tymor newydd Pencampwriaeth Sky Bet, gan ennill saith pwynt yn eu tair gêm gyntaf.

Wrth i Abertawe roi’r tîm cartref o dan bwysau o’r cychwyn cyntaf, agorodd Andrew Ayew y sgorio yn y 12fed munud yn dilyn croesiad gan Jake Bidwell. Ddeng munud wedyn, fe wnaeth croesiad celfydd gan Andrew Ayew alluogi Jamal Lowe i ddyblu mantais yr ymwelwyr. Roedd y fuddugoliaeth bellach wedi’i selio, ac er gwaethaf sawl ymgais gan y ddau dîm wedyn, felly yr arhosodd y sgôr tan y diwedd.