Doedd gôl gan Lee Tomlin naw munud cyn diwedd y gêm ddim yn ddigon i achub yr Adar Gleision y pnawn yma.

Colli 2-1 i Reading a wnaeth y tîm cartref ar ôl goliau gan Michael Morrison a Lucas Joao yn gynnar yn yr ail hanner.

Mae buddugoliaeth Reading yn golygu eu bod bellach ddau bwynt yn glir ar frig cynghrair Pencampwriaeth Sky Bet ar ôl ennill pob gêm hyd yma yn y tymor newydd.