Y Drenewydd 1-1 Aberystwyth
Mae’r Drenewydd yn parhau i fod heb ennill y tymor hwn yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Aberystwyth ar Barc Latham nos Wener.
Veale blasus!
Rhoddod Jamie Veale yr ymwelwyr ar y blaen gyda cracar o ergyd o ddeunaw llath ddeg munud cyn yr egwyl.
Hon oedd gôl gyntaf y chwaraewr canol cae i’w glwb newydd ers ymuno o Merthyr dros yr haf. Profodd hwnnw i fod yn benderfyniad da iawn ganddo yn gynharach yr wythnos hon wrth i’w gyn glwb benderfynu rhoi’r gorau i chwarae am y tymor oherwydd sialensiau ariannol ynghlwm â Covid-19.
O wel, dyna ddangos fod chwarae ar y lefel uchaf yng Nghymru yn well na straffaglu mewn rhyw gynghrair ceiniog a dimai yn nyfnderoedd pyramid Lloegr!
Golwr Blin
Neil Mitchell a fachodd bwynt i’r Robiniaid, yn sleifio i mewn wrth y postyn pellaf i unioni pethau bum munud o’r diwedd.
Amddiffyn blinedig a braidd yn flêr a oedd yn gyfrifol am y gôl a nid oedd gôl-geidwad Aber, Connor Roberts, yn ddyn hapus. Fe aeth hi bron yn ffeit rhyngddo a’i amddiffynnwr, Jack Rimmer, yn y post-mortem!
Chwarae teg, mae golwyr yn hoffi eu llechi glân ond dichon y bydd Roberts a’i dîm yn gymharol hapus pan welan nhw eu bod yn aros yn hanner uchaf y tabl yn dilyn dechrau da i’r tymor o dan ofal y rheolwr newydd, Gavin Allen.
*
Derwyddon Cefn 1-1 Met Caerdydd
Gôl yr un a phwynt yr un oedd hi wrth i’r Derwyddon groesawu stiwdants Met Caerdydd i’r Graig ddydd Sadwrn.
Dechreuodd y tîm o Wrecsam y penwythnos ar waelod y tabl, wedi chwarae gêm yn llai ar ôl bod yn blantos drwg (yn ôl y Gymdeithas Bêl Droed) yn methu dilyn y Canllawiau Dychwelyd i Chwarae’n Ddiogel ar ddechrau’r tymor.
Ac yno maent yn aros wedi i fyfyrwyr Met ddathlu wythnos y glas gyda phwynt digon derbyniol ar ôl taith bell i’r gogledd ddwyrain.
Y Bythol-llwyd-wyrdd
Os oes gennych ddeufis i’w sbario, dyma gwestiwn cwis i chi; enwi pob clwb y mae Jamie Reed wedi chwarae iddynt. Yn Cefn y mae’r crwydryn erbyn hyn ac er bod ei wallt yn britho, mae ganddo lygad am gôl o hyd.
Ef a agorodd y sgorio yn hanner cyntaf y gêm hon, yn rhoi’r tîm cartref ar y blaen gyda hanner foli flasus y byddai Fabrizio Ravanelli ei hun yn falch ohoni.
Liam Warman a gipiodd y pwynt i’r myfyrwyr yn yr ail hanner gyda’i gôl gyntaf i’r clwb. Nid oedd hi’n gystal gôl ag un Reed ond mae nhw i gyd yn cyfri’r un faint chwedl yr hen ddihareb.
*
Pen-y-bont 1-5 Y Bala
Cododd Y Bala i frig y Cymru Premier gyda buddugoliaeth swmpus oddi cartref yn erbyn Pen-y-bont yn Stadiwm SDM Glass brynhawn Sadwrn.
Dechreuodd pethau’n addawol iawn i’r tîm cartref, gyda Lewis Harling yn manteisio ar gamgymeriad Alex Ramsay yn y gôl i roi’r tîm cartref ar y blaen wedi deg munud.
Stori Dau Gerdyn Coch
Stori dau gerdyn coch a oedd hi wedi hynny, un a roddwyd yn y gêm hon ac un na roddwyd wythnos yn gynharach!
Aeth Pen-y-bont i lawr i ddeg dyn toc cyn yr egwyl yn dilyn cerdyn coch i Kane Owen am dacl flêr ar Kieran Smith.
Cafodd Will Evans get-awê efo sathriad llawer gwaeth yng ngêm ddiwethaf y Bala ac roedd yn rhydd i chwarae yn y gêm hon o ganlyniad. Ac yn wir, y chwaraewr a symudodd o Met Caerdydd dros yr haf oedd seren y gêm i’r ymwelwyr.
William Albert Evans
Chwaraeodd y boi sydd ag enw fel brenin ei ran ym mhedair gôl gyntaf y Bala, yn sgorio dwy yn chwarter awr cyntaf yr ail hanner cyn creu’r ddwy nesaf i Chris Venables, yn rhoi un ar blât yn y cwrt cosbi cyn ennill cic o’r smotyn am y llall.
Kieran Smith a gwblhaodd y sgorio i dîm Colin Caton. Crasfa i Ben-y-bont er gwaethaf hanner cyntaf cystal a thîm Rhys Griffiths yn aros tua gwaelodion y tabl.
*
Y Fflint 0-1 Y Barri
Roedd ymweliad cyntaf camerâu Sgorio â Chae’r Castell ers i’r Fflint ddychwelyd i Uwch Gynghrair Cymru yn un eithaf llwyddiannus wrth iddynt dystio i gêm ddigon diddorol rhwng y tîm cartref a’r Barri.
Rhoddodd y newydd-ddyfodiaid, sydd wedi cael dechrau da i’r tymor, gêm dda iawn i’r tîm a orffennodd yn bedwerydd y tymor diwethaf er mai’r ymwelwyr a aeth â hi o un gôl yn y diwedd.
Arbediad y Tymor
Roedd chwaraewr rhyngwladol Antigua a Barbuda, Nat Jarvis, eisoes wedi plannu peniad yn erbyn trawst y Fflint yn un pen cyn i Richard Foulkes ddod o fewn modfedd at agor y sgorio yn y pen arall.
Ond nid y pren a ddaeth i achub y Barri, ond llaw y Marmite o ôl-geidwad, Mike Lewis. Ymateb adweithiol gwych ac ymgeisydd cynnar am wobr arbediad y tymor.
Cic o’r Smotyn Amlycaf y Tymor
Penderfynwyd ar wobr arall yn yr ail hanner wrth i Darren Thornton ildio’r cic o’r smotyn mwyaf amlwg y gwelwch chi erioed. Hon a oedd gêm gyntaf y dyfarnwr ifanc, Aaron Wyn Jones, yn y Cymru Premier ond roedd penderfyniad mawr y gêm yn un syml.
Roedd tacl Thornton ar Kayne McLaggon wedi’i hamseru’n waeth na rhech mewn angladd. Cododd McGlaggon ar ei draed cyn anfon John Danby y ffordd anghywir gyda’i gic o’r smotyn slic.
*
Hwlffordd 1-4 Cei Connah
Ar dystiolaeth y gêm hon, mae’n rhaid bod carfan Cei Connah wedi gwella’n llwyr o’r dos annifyr hwnnw o bili-palod yn y stumog yr honnodd Andy Morrison a’u heffeithiodd hwy cyn eu gêm ddiweddar yng Nghynghrair Ewropa.
Cyfartal a oedd hi ar yr egwyl wedi gôl yr un gan Craig Curran i’r Nomadiaid a Sean Pemberton i’r tîm cartref.
Aeron Melys
Rhoddodd Curran Cei Connah yn ôl ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner cyn i Aeron Edwards ymestyn y fantais gyda’i gôl gyntaf dros ei glwb newydd. Roedd rhywbeth yn gysurus o gyfarwydd amdani, wrth i chwaraewr gorau’r gynghrair dros y degawd diwethaf gyrraedd y cwrt cosbi ar yr amser iawn i sgorio wedi un o’r rhediadau “trydydd dyn” bondigrybwyll hynny.
Declan Poole a gafodd y bedwaredd wrth i’r pencampwyr ennill yn gyfforddus yn y diwedd yn erbyn y newydd-ddyfodiaid.
*
Caernarfon 0-4 Y Seintiau Newydd
Mae golwg gyfarwydd ar dabl y Cymru Premier erbyn hyn wedi i’r Seintiau Newydd godi i’r brig gyda buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Caernarfon brynhawn Sul.
Nathan Blake-esque
Cofio’r peniad hwnnw gan Nathan Blake yn erbyn Norwy? Sgorio o bron i ddeunaw llath? Roedd cyn flaenwr Cymru’n gallu penio’r bêl ym mhellach nag y galla i ei chicio, ond felly hefyd Louis Robles ymddengys.
Rhoddodd blaenwr newydd y Seintiau ei dîm ddwy gôl ar y blaen gyda dau fynydd o beniad yn yr ail hanner, gyda chyfanswm pellter o dri deg llath.
Cofi-o fi?
Dean Ebbe a rwydodd drydedd yr ymwelwyr cyn i wyneb cyfarwydd ar yr Oval gwblhau’r sgorio. Creodd Ben Clarke argraff ar fenthyg gyda Chaernarfon y tymor diwethaf ond ni wnaeth y chwaraewr canol cae ddangos unrhyw drugaredd tuag at y Caneris wrth sgorio gôl wych yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.
Gwilym Dwyfor