Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi canmol gwaith amddiffynnol ei dîm ar ôl iddyn nhw sichrau trydedd llechen lân yn nhair gêm gynta’r tymor am y tro cyntaf ers ymuno â’r Gynghrair Bêl-droed.

Ar wahân i ambell arbediad digon syml, ychydig iawn o waith gafodd Freddie Woodman yn y gôl wrth i’r Elyrch guro Wycombe o 2-0 yn Adams Park.

Roedd yr Elyrch ar y blaen o 2-0 o fewn 23 munud, wrth i Andre Ayew rwydo ar ôl 13 munud, cyn i Jamal Lowe ddyblu mantais ei dîm ddeng munud yn ddiweddarach.

Ac mae’r diolch am y fuddugoliaeth i bob chwaraewr ar y cae, yn ôl y rheolwr.

“Dw i wedi dweud o’r blaen, dydy hi ddim yn hawdd cadw llechen lân yn y Bencampwriaeth, felly mae cadw tair o’r bron yn wych,” meddai.

“Yr her nawr yw ceisio cadw’r rhediad yna i fynd yn y gêm nesaf.

“Ro’n i’n gwybod yr ystadegyn am dair o’r bron oherwydd roedd Joe Rodon wedi sôn wrtha i, ac mae’n dda ein bod ni wedi gwneud hynny.

“Ond dydyn ni ddim eisiau edrych yn ôl, rhaid i ni edrych ymlaen.

“Ond rydyn ni’n amddiffyn yn dda fel tîm, a pheidiwch â thanbrisio pa mor bwysig yw’r gwaith a’r rhedeg mae Jamal, Andre a Morgan [Gibbs-White] yn ei wneud ym mlaen y cae, gan roi pwysau ar amddiffynwyr a’u gorfodi nhw i fynd yn hir.

“Mae’n helpu’r llinell gefn, mae’r chwaraewyr canol cae yn cystadlu’n dda ac mae’r bois yn y cefn yn amddiffyn am eu bywydau.

“Fe wnaethon ni chwarae’n dda ar y bêl ac oddi arni.”