Mae Neil Harris, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, yn dweud bod ildio goliau’n destun pryder iddo, a bod colli o 2-1 yn erbyn Reading yn destun siom.
Er i Lee Tomlin ganfod y rhwyd yn hwyr yn y gêm, doedd hynny ddim yn ddigon i atal y golled yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Dywedodd y rheolwr fod y canlyniad yn un “siomedig iawn”.
“Er mwyn adeiladu’r llwyfan i herio am le ymhlith y chwech uchaf, rhaid i chi fod yn gadarn gartref,” meddai.
“Y peth rhwystredig i fi yw ein bod ni wedi ildio pedair gôl mewn dwy gêm gartref.
“Yn erbyn Sheffield Wednesday, fe wnaethon ni ildio’r bêl yn rhad yng nghanol y cae a chael ein cosbi.
“Chwarae gosod oedd yr ail gôl, cic rydd.
“Heddiw, fe wnaethon ni ildio dwy gôl debyg.
“Dyna sy’n peri’r loes mwyaf.
“Dyma gêm arall lle mai ni oedd y tîm gorau ac wedi creu’r cyfleoedd gorau.
“Aethon ni i’r llefydd gorau, rhoi’r peli gorau i mewn i’r cwrt cosbi a symud y bêl yn well na nhw.
“Ond rydyn ni wedi colli’r gêm, a dyna’r peth rhwystredig.”