Mae cefnogwyr Cymru yn hoffi cadw llygaid ar berfformiadau ein chwaraewyr i’w clybiau. Ac wrth i Ewros yr haf nesaf agosáu, cynyddu a fydd y diddordeb hwnnw wrth i’r dyfalu ynglŷn a phwy fydd yng ngharfan Ryan Giggs ddechrau.

Sut y gwnaiff Bale setlo nôl yn Spurs?

Faint o gemau a gaiff Rambo gan Pirlo?

A fydd Joe Bach yr un chwaraewyr ar ôl ei anaf?

Pwy fydd y Morrell nesaf i ymddangos o ddinodedd yr Adran Gyntaf a chamu i bêl droed rhyngwladol fel pe bai o’n cael cic-abowt efo’i fêts yn y parc?

Pwy arall sydd â thaid o Lanrug?

Dim ond rhai o’r cwestiynau y bydd y Wal Goch yn eu holi dros y naw mis nesaf. Yma i’ch helpu byddwn ni yn cadw golwg ar hynt a helynt y Cymry i’w clybiau, y rhai sydd wedi bod yn y garfan yn ddiweddar a’r rhai sydd â’u golygon arni.

Uwchgynghrair Lloegr

Mae’r cwestiwn oesol o beth yw safle gorau Ethan Ampadu wedi cymhlethu’n bellach ers iddo symud ar fenthyg o Chelsea i Sheffield United. Mae’r tîm o Swydd Efrog yn chwarae system unigryw o dri yn y cefn gyda’r amddiffynwyr canol yn goddiweddyd y cefnwyr!

Ta waeth, ei fod yn chwarae sydd bwysicaf ac fe ddechreuodd ei gêm gyntaf i’r clwb a chwblhau 90 munud yn erbyn Leeds ddydd Sul. Fel un o’r tri yn y cefn yr oedd hynny ac mae’n debyg mai yno y gwelwn ni o fwyaf gan fod Jack O’Connell yn debyg o fod allan am y tymor cyfan gydag anaf.

Ildio gôl hwyr i golli’r gêm o gôl i ddim a wnaeth y Blades. Dechreuodd Tyler Roberts i Leeds ond cael ei eilyddio ar hanner amser.

Cafwyd gêm hynod gyffrous rhwng West Brom a Chelsea yn yr Hawthorns nos Sadwrn ond roedd pob un o goliau’r Baggies yn y gêm gyfartal dair gôl yr un wedi bod yn yr hanner cyntaf, cyn i Hal Robson-Kanu ddod i’r cae fel eilydd am yr hanner awr olaf.

Gwylio o’r eisteddle a wnaeth Gareth Bale wrth i Ben Davies a Tottenham gael gêm gyfartal yn erbyn Newcastle. Chwaraeodd y Cymro ei ran mewn llechen lân am 97 munud cyn i Newcastle gipio pwynt gyda chic o’r smotyn ddadleuol.

Nid yw Lerpwl na Aston Villa yn chwarae tan nos Lun ond go brin y gwelwn ni Neco Williams na Neil Taylor gan i’r ddau chwarae yn y “tîm cwpan” ganol wythnos. Chwaraeodd Taylor 90 munud heb ildio wrth i Villa drechu Bristol City a chreodd Williams ryw fath o storm twitter am ei berfformiad honedig wael er i’w dîm ennill o 7 gôl i 2!

Sôn am Gymry sydd yn cael triniaeth annheg ar y cyfryngau cymdeithasol, nid oedd golwg o Daniel James yng ngharfan Man U yn Brighton ddydd Sadwrn, wrth i’r sïon gynyddu ei fod ar ei ffordd i Leeds ar fenthyg. Siawns y byddai hyd yn oed Giggs yn cyfaddef y byddai ei asgellwr yn dysgu mwy o dan adain Marcelo Bielsa yn Elland Road na gyda’i hen gyfaill, Ole Gunnar Solskjær, yn Old Trafford.

Y Bencampwriaeth

Penwythnos cymysg a oedd hi i’r clybiau o Gymru yn y Bencampwriaeth. Colli a fu hanes Caerdydd yn erbyn Reading, gyda Will Vaulkes a Kieffer Moore yn dechrau i’r Adar Gleision. Roedd buddugoliaeth i Abertawe yn Wycombe a llechen lân i’w hamddiffyn tri chwarter Gymreig; chwaraeodd Connor Roberts, Ben Cabango a Joe Rodon wrth i’r Elyrch ennill o ddwy i ddim. Cafodd Liam Cullen ddeg munud oddi ar y fainc hefyd.

Nid triawd y Jacs a oedd yr unig dri Chymro i gyfrannu at lechen lân yn y Bencampwriaeth. Fe chwaraeodd James Chester, Morgan Fox ac Adam Davies i Stoke wrth iddynt drechu Preston o gôl i ddim. Gyda thymor arall ar y fainc yn aros Wayne Hennessey a Danny Ward yn Crystal Palace a Chaerlŷr, mae’n dda iawn gweld o leiaf un o’n gôl-geidwaid yn chwarae i’w clwb, a hynny o flaen golwr Lloegr, Jack Butland.

I ddychwelyd at gêm Abertawe, roedd un Cymro yn nhîm Wycombe hefyd, sef Alex Samuel. A dyma ffaith ddifyr i chi, roedd Samuel yn un o dri o gynhyrchion Academi gynhyrchiol Cwlb Pêl-droed Tref Aberystwyth i ddechrau i’w clybiau yn y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn, Tom Bradshaw (Millwall) a Rhys Norrington-Davies (Luton), y ddau arall.

Nid oedd David Brooks yn nhîm Bournemouth oherwydd wrth iddynt wynebu Norwich brynhawn Sul. “Salwch” a oedd y lein swyddogol ond dyma chwaraewr arall a all fod ar ei ffordd yn ôl i’r Uwchgynghrair cyn i’r ffenestr drosglwyddo gau. Chwaraeodd Chris Mepham a chadw llechen lân wrth i’r Cherries ennill o gôl i ddim.

Chwaraeodd Shaun MacDonald y gêm gyfan wrth i Rotherham gael pwynt yn Birmingham a dechreuodd George Thomas ei gêm gyntaf i QPR ers ymuno o Gaerlŷr dros yr haf, yn chwarae awr mewn gêm gyfartal gôl yr un.

Cynghreiriau is

Y gêm rhwng Lincoln a Charlton yn yr Adran Gyntaf brynhawn Sul a oedd yr un o ddiddordeb mwyaf i gefnogwyr Cymru yn y cynghreiriau is y penwythnos hwn. Gwnaeth Brennan Johnson ei ymddangosiad cyntaf i Lincoln ers ymuno ar fenthyg o Nottingham Forest, yn dod oddi ar y fainc am yr ugain munud olaf wrth i’w dîm ennill o ddwy gôl i ddim.

Dechreuodd Dylan Levitt y gêm i Charlton gan ddod o fewn modfeddi at sgorio yn yr hanner cyntaf. Cafodd ei eilyddio am Gymro arall yn yr ail hanner wrth i Jonny Williams orffen y gêm.

Hefyd yn yr Adran Gyntaf, fe sgoriodd Lee Evans i Wigan wrth iddynt hwy drechu Portsmouth brynhawn Sadwrn.

Yr Alban a thu hwnt

Colli fu hanner Hibs wrth iddynt deithio i Glasgow i wynebu Celtic brynhawn Sul, gyda Christian Doidge yn wastraffus o flaen gôl yn yr hanner cyntaf.

Roedd hi’n brynhawn gwell i’r tri Chymro yn nhîm Aberdeen. Dechreuodd Ash Tylor, Ryan Hedges a Marley Watkins i’r Dons, a hynny dridiau’n unig ar ôl dechrau yn erbyn Sporting CP yng Nghynghrair Ewropa nos Iau. Colli fu eu hanes yn Ewrop ond cafwyd buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Ross County yn y gynghrair gyda Watkins yn rhwydo’r gyntaf o dair gôl ei dîm.

Chwaraeodd Robbie Burton 90 munud i Dynamo Zagreeb wrth iddynt roi crasfa i dîm o’r cynghreiriau is yng Nghwpan Croatia ddydd Sadwrn.

Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Rabbi Matondo yng ngholled Schalke i Werder Bremen yn y Bundesliga, yr ymosodwr yn un o’r rhai i golli ei le yn y tîm yn dilyn crasfa o wyth gôl i ddim gan Bayern München ar y penwythnos agoriadol.

Nid oedd James Lawrence ar gael i Anderlecht y penwythnos hwn gan ei fod mewn cwarantin ar ôl dal Covid-19. Ac yn ôl pob sôn, ni fydd yr amddiffynnwr yng Ngwlad Belg  yn hir eto, gydag adroddiadau yn ei gysylltu â symudiad i Maccabi Tel Aviv yn Israel.

Mae’n debyg nad oedd Aaron Ramsey yn rhan o gynlluniau Andrea Pirlo, pan gymerodd y cyn chwaraewr canol cae chwedlonol yr awenau fel rheolwr yn Juventus dros yr haf. Ond mae’n rhaid bod rhywbeth wedi newid, achos ar ôl creu argraff yn erbyn Sampdoria yr wythnos diwethaf, mae Rambo’n dechrau i’r Bianconeri eto heno (nos Sul).

Ac i orffen, atebion ar gerdyn post, yw Rhys Healey yn gymwys i chwarae i Gymru? Gydag enw fel Rhys a Cei Connah a Chaerdydd ar ei restr o gyn glybiau, mae’n teimlo fel y dylai fod! Ta waeth, rhag ofn fod gan Giggs ddiddordeb, fe ddaeth oddi ar y fainc i sgorio i Toulouse yn Ligue 2 y penwythnos hwn, ei gôl gyntaf dros ei glwb newydd.