Mae’r bowliwr cyflym 39 oed, Michael Hogan, wedi ymestyn ei gytundeb gyda Chlwb Criced Morgannwg am dymor arall.

 

Ac yntau’n hanu o Awstralia ond yn meddu ar basport Prydeinig, ymunodd e â Morgannwg yn 2012, ac mae e wedi cipio 378 o wicedi dosbarth cyntaf mewn 98 o gemau ar gyfartaledd sy’n is na 23.

 

Mae e wedi cipio pum wiced mewn batiad 17 o weithiau, a deg wiced mewn gêm ddwy waith.

Cipiodd ei chwe chanfed wiced mewn gemau dosbarth cyntaf yn y gêm yn erbyn Swydd Northampton yn Nhlws Bob Willis eleni.

 

Mae e wedi chwarae mewn 44 o gemau undydd Rhestr A, gan gipio 67 o wicedi, ac mae e’n drydydd ar restr prif gipwyr wicedi’r sir mewn gemau ugain pelawd gyda 94.

 

Roedd e’n gapten ar Forgannwg yn 2018, a chafodd ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn yn 2013 a 2014.

 

‘Rhif yn unig yw oedran’

 

Dywed Michael Hogan ei fod e’n “hapus iawn” o gael ymestyn ei gytundeb gyda Morgannwg am dymor arall.

 

“Rhif yn unig yw oedran ac mae’n hysbys iawn ’mod i wedi dechrau’n hwyr, felly dw i’n teimlo fel pe bai sawl blwyddyn arall ynof fi eto er mwyn cael perfformio dros Forgannwg.

 

“Mae gyda fi dipyn dw i eisiau ei gyflawni o hyd yn y gêm, ac un o’r nodau hynny yw ennill tlws.

 

“Mae pawb yn y clwb â’r uchelgais i wneud hynny ac mae gyda ni sawl cricedwr talentog iawn yma.

 

“Fy uchelgais nawr yw dod â’r bowlwyr iau yn eu blaenau a dw i’n teimlo ein bod ni’n agos iawn at wneud hynny.”

 

‘Un o’n bowlwyr gorau erioed’

 

“Mae modd dadlau ei fod e’n un o’n bowlwyr gorau erioed,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.

 

“Pe bai yna sgwrs am yr unarddeg gorau erioed, fe fyddai’n sicr o fod yn eu plith.

 

“Mae e wedi bod yn was ffyddlon i’r clwb ac mae’r ffaith ei fod e wedi arwyddo am flwyddyn arall yn newyddion gwych.

 

“Mae cael Michael o gwmpas ar y cae ac oddi arno yn gwneud ei beth, ac oddi ar y cae yn trosglwyddo’i brofiad i’r chwaraewyr iau, yn amhrisiadwy.

 

“Efallai mai 39 sydd ar ei dystysgrif geni ond mae ganddo fe sawl blwyddyn i ddod eto.”