Mae Brian Davies, cyn-ganolwr timau rygbi Llanelli a Chymru, wedi marw yn 79 oed.
Dechreuodd ei yrfa rygbi yn Ysgol Ramadeg Llanelli ac enillodd chwe chap dros Ysgolion Uwchradd Cymru yn erbyn Swydd Efrog, Lloegr a Ffrainc ym 1959 a 1960.
Chwaraeodd i Lanelli rhwng 1959 a 1965, gan ymddangos bron i 100 o weithiau i’r clwb, er iddo hefyd chwarae i Langennech, Caerdydd, Trecelyn, Castell-nedd, Abertawe, Pentyrch a Chasnewydd.
Enillodd e dri chap dros Gymru, a daeth ei gyntaf yn erbyn Iwerddon yn 1962, a chwaraeodd yn erbyn Lloegr a’r Alban yn 1963.
Wrth chwarae dros Gymru, Brian Davies a’i dad, David Idwal Davies, oedd y seithfed mab a thad i chwarae dros y tîm cenedlaethol. Mae naw chwaraewr arall wedi gwneud ers hynny.
Yn ddiweddarach, bu’n ddarlithydd mewn peirianneg sifil ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ar ôl ymddeol, treuliodd ei amser yn paentio a chyhoeddi llyfr ‘Portraits’ yn 2008.
‘Chwaraewr gwych’
Bu Brian Davies hefyd yn hyfforddi Clwb Rygbi Hendy a Chlwb Rygbi Pentyrch.
Disgrifiodd Huw Llywelyn-Davies, Llywydd Clwb Rygbi Pentyrch, a chwaraeodd gyda Brian Davies, ef fel “chwaraewr gwych”.
“Fe drawsnewidiodd y ffordd roeddem yn hyfforddi a chwarae ym Mhentyrch ac roedd mewn gwirionedd yn allweddol mewn newid dramatig yn hyn,” meddai.
“Roedd Brian yn chwaraewr gwych yn ei ddydd, yn ddyn clwb ac yn ffrind gwych.
“Bydd colled fawr ar ei ôl gan nifer ohonom ac mae ein meddyliau a’n gweddïau gydag Enid a’i deulu.”
Bu farw yn yr ysbyty ar Fedi 27.
Mae’n gadel gwraig, Enid, a merch, Kate.