Mae Clwb Pêl-droed Sheffield United yn barod i gynyddu eu cynnig i ddenu Rhian Brewster, oedd wedi treulio’r tymor diwethaf ar fenthyg yn Abertawe, o Lerpwl.

Mae’r Sun yn adrodd fod y clwb wedi cynyddu eu cynnig yn sylweddol i £17m ar ôl methu â sgorio’r un gôl yn eu tair gêm gyntaf yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Yn ôl yr adroddiad, maen nhw wedi cynnwys cymal mewn cynnig newydd fydd yn galluogi Lerpwl i brynu’r chwaraewr yn ôl am oddeutu £40m.

Sgoriodd e ddeg gôl mewn 20 o gemau i Abertawe y tymor diwethaf, ac fe fethodd e o’r smotyn yn y Community Shield ar ôl dychwelyd i Lerpwl ar ddechrau’r tymor hwn.