Mae Syr Dave Brailsford wedi denu un o sêr ifanc y byd seiclo i’w dîm ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Yn 21 oed, daw Tom Pidcock o Swydd Efrog ac mae wedi ennill pencampwriaethau ieuenctid y byd mewn sawl maes gwahanol gyda’i ddoniau seiclo.

Yn gynharach yn yr haf fe enillodd ras y ‘Baby Giro’ sef y brif ras i seiclwyr dan 23 oed yn yr Eidal.

Bydd yn ymuno gydag Ineos Grenadiers, y tîm dan reolaeth Syr Dave Brailsford o Ddeiniolen, ar Fawrth y cyntaf 2021.

“Mae yn amlwg bod Tom yn un o’r seiclwyr ifanc mwya’ addawol yn y byd,” meddai Dave Brailsford, “ac yn rhan o don newydd o dalentau aml-dalentog.”