Bydd canolwr Cymru Jonathan Davies yn dychwelyd i’r cae rygbi heno (Medi 25) ar gyfer gêm gyfeillgar yn erbyn y Gweilch.
Oherwydd anaf i’w ben-glin, dydy’r canolwr heb chwarae ers gêm y fedal efydd yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn Japan fis Tachwedd y llynedd.
Mae’r chwaraewr 32 oed yn gobeithio profi ei ffitrwydd cyn i dymor newydd y Pro14 ddechrau fis Hydref pan fydd y Scarlets yn croesawu Munster yn ei gêm gyntaf.
Mae Liam Williams a Rhys Patchell yn parhau i fod yn absennol oherwydd anafiadau.
Ni fydd asgellwr Cymru, Johnny McNicholl, na Leigh Halfpenny yn chwarae’r gêm gyfeillgar chwaith ar ôl anafiadau yn rownd gynderfynol y Cwpan Her yn erbyn Toulon wythnos ddiwethaf.
Scarlets: Tom Rogers; Ryan Conbeer, Jonathan Davies, Paul Asquith, Tom Prydie; Sam Costelow, Dane Blacker; Phil Price, Marc Jones, Werner Kruger, Josh Helps, Tevita Ratuva, Ed Kennedy, Jac Morgan (capt), Uzair Cassiem.
Eilyddion: Dylan Evans, Taylor Davies, Shaun Evans, Javan Sebastian, Jac Price, Morgan Jones, Dan Davis.
Nid yw’r Gweilch wedi enwi eu tîm eto.