Pe bai Plaid Cymru yn dod i rym yn sgil etholiad y Senedd, dylai fwrw ati yn syth i fraenaru’r tir ar gyfer refferendwm annibyniaeth.
Dyna brif gasgliad adroddiad newydd ‘Cyrchu Annibyniaeth Cymru’ gan Gomisiwn Annibyniaeth Cymru – panel a gafodd ei sefydlu gan y Blaid.
Dechreuodd y comisiwn ar ei waith yn sgil etholiad cyffredinol y llynedd, ac ymhlith yr awduron mae’r cyn-Aelod Seneddol, Elfyn Llwyd.
Mae’r ddogfen yn cynnig cyfres o argymelliadau a’r un pennaf yw bod Plaid Cymru yn pasio ‘Bil Hunan-Benderfynu (Cymru)’ yn ei thymor cyntaf, pe bai’n ffurfio Llywodraeth yng Nghymru.
Byddai hynny’n tanio’r broses a fyddai yn y pendraw – gan gymryd bod pob rhwystr wedi ei goresgyn – yn galluogi refferendwm annibyniaeth.
Barn y bobol
Yn ôl yr adroddiad, wrth basio’r Bil, byddai ‘Comisiwn Cenedlaethol Statudol’ yn cael ei sefydlu, a byddai hwnnw, yn ei dro, yn mynd ati i wella dealltwriaeth y cyhoedd o oblygiadau annibyniaeth.
Hefyd byddai ‘Rheithgorau Dinasyddion’ (Citizens Assemblies) yn cael eu sefydlu. Sesiynau fyddai’r rhain lle byddai barn y cyhoedd yn cael eu casglu, fel eu bod yn rhan o’r broses.
Byddai’r ‘Comisiwn Cenedlaethol Statudol’ hefyd yn cynnal “refferendwm ymchwiliol cychwynnol” a fyddai’n darganfod pa opsiynau byddai’r cyhoedd eisiau yn y refferendwm annibyniaeth go iawn.
Pwysigrwydd y cyhoedd
Mae pobol Cymru “wrth graidd proses annibyniaeth” a byddai dilyn y trywydd yma yn sicrhau bod cymaint â phosib yn medru cymryd rhan, meddai’r adroddiad.
“Am y tro cyntaf erioed mae llawer o’n pobol wedi dod yn ymwybodol o’r manteision positif sydd gan Gymru o feddu ar ei sefydliadau democrataidd ei hun,” meddai.
“Mae’r rheiny yn cynnwys y Senedd a Llywodraeth Cymru. Mae Comisiwn Annibyniaeth Cymru yn credu mai annibyniaeth yw’r sefyllfa y dylai Cymru ei deisyfu.
“Byddai hynny’n galluogi llawer mwy o reolaeth tros ein materion ein hunain.”
Argymhellion eraill
Mae’r adroddiad – a fydd yn cael ei lansio ar-lein y bore ’ma (dydd Gwener 25 Medi) – hefyd yn cynnig llu o argymhellion mewn meysydd eraill.
Mae’n pwysleisio y dylai Cymru anelu i fod yn “aelod cyflawn” o’r Undeb Ewropeaidd, ac y gallai “saernïo cydberthynas agosach” â’r undeb wrth nesáu at annibyniaeth – ac wedi hynny.
Dylai ‘Comisiwn Cenedlaethol Statudol’ ystyried sut all Gymru ymuno ag Efta (yr Ardal Fasnach Rydd Ewropeaidd) – hynny yw, ymuno â marchnad sengl yr undeb Ewropeaidd.
Mae’r ddogfen hefyd yn ystyried sut all Cymru ddysgu o brofiad Gweriniaeth Iwerddon, a sut olwg fydd ar y berthynas â’r Alban a Lloegr yn y dyfodol.
Sonnir hefyd am gyfiawnder, ac mae’r adroddiad yn dweud bod yn rhaid i Gymru gael awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân.