Mae ystadegau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Chaerdydd ymhlith yr ardaloedd sydd â’r nifer uchaf o achosion o’r coronafeirws yn ystod yr wythnos ddiwethaf.
Mae disgwyl i’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y coronafeirws yng Nghymru mewn cynhadledd i’r wasg amser cinio heddiw (25 Medi).
Sut mae gwhanol siroedd yn cymharu?
Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Chaerdydd a’r chwe ardal sydd eisoes dan gyfyngiadau lleol yw’r siroedd sydd â’r nifer uchaf o achosion yng Nghymru.
Ceredigion sydd yn parhau i fod â’r nifer lleiaf o achosion.
Mae’r tabl isod yn dangos nifer yr achosion positif ar gyfer pob 100,000 o boblogaeth a’r nifer o achosion newydd yn ystod yr wythnod diwethaf – mae’r ardaloedd sydd mewn bold eisoes dan gyfyngiadau lleol.
Achosion bob i 100,000 o’r boblogaeth |
Nifer yr achosion newydd | |
Blaenau Gwent | 167.5 | 117 |
Merthyr Tydful | 147.5 | 89 |
Rhondda Cynon Taf | 135.5 | 327 |
Pen-y-Bont ar Oogwr | 74.8 | 110 |
Abertawe | 49.8 | 123 |
Sir Gaerfyrddin | 47.1 | 89 |
Casnewydd | 45.3 | 70 |
Caerdydd | 38.2 | 140 |
Caerffili | 35.3 | 64 |
Torfaen | 28.7 | 27 |
Morgannwg | 26.9 | 36 |
Dinbych | 24 | 23 |
Conwy | 23 | 27 |
Sir y Fflint | 20.5 | 32 |
Sir Fôn | 20 | 14 |
Castell-nedd Port Talbot | 14.7 | 21 |
Sir Benfro | 8.7 | 11 |
Sir Fynwy | 8.5 | 8 |
Wrecsam | 8.1 | 11 |
Gwynedd | 7.2 | 9 |
Powys | 5.3 | 7 |
Ceredigion | 4.1 | 3 |
Nifer cyfartalog yr achosion i bob 100,000 o’r boblogaeth yng Nghymru yn ystod yr wythnos ddiwethaf yw 43.2.
Cafodd y data uchod ei ryddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddoe (dydd Iau, Medi 24).
Caerdydd yn barod i weithredu’n ‘gyflym’
Rhybuddiodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, neithiwr (Medi 24) y gallai prifddinas Cymru wynebu cyfyngiadau lleol wrth i nifer yr achosion Covid-19 yno godi “yn gyflym”.
Mewn cyfarfod rhithiol o’r awdurdod dywedodd bod yr ardal wedi gweld 38.2 o achosion o’r coronafeirws am bob 100,000 o bobl yn ystod yr wythnos ddiwethaf.
“Os bydd nifer yr achosion yn parhau i godi, mae posibilrwydd gwirioneddol y bydd Caerdydd yn rhan o ‘barth coch’ Llywodraeth Cymru.
“Pe bai hynny’n digwydd, yna rwy’n disgwyl yn llawn y byddwn yn rhoi cyfyngiadau pellach ar waith – fel y gwelir mewn mannau eraill – ac o bosibl yn gyflym, er mwyn cyfyngu a rhwystro’r feirws.”
Ychwanegodd ei fod wedi cyfarfod â’r Prif Weinidog, Mark Dakeford, a’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, ac y byddent yn edrych ar y ffigyrau eto fore dydd Gwener cyn “gwneud penderfyniad ar sail hynny”.
Bydd unrhyw gyfyngiadau newydd yn cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru.
Caerffili
Caerffili oedd yr ardal gyntaf i gael ei rhoi dan gyfyngiadau lleol yng Nghymru – mae cyfyngiadau mewn lle yno ers Medi 8.
Roedd gweinidogion yn adolygu’r rheoliadau yng Nghaerffili ddydd Iau (Medi 24).
Yn ystod yr wythnos ddiwethaf mae achosion yn y sir wedi disgyn i 35.3 i bob 100,000 o’r boblogaeth.
“Fodd bynnag, mae gennym dipyn o ffordd i fynd eto”, meddai Vaughan Gething.
“Mae cyfraddau haint yn parhau i fod yn uchel yn y fwrdeistref – uwchlaw’r lefelau y byddem am eu gweld.
“Ar ôl trafod y sefyllfa gyda’r awdurdod lleol, rydym wedi penderfynu gadael y cyfyngiadau yn eu lle am o leiaf saith diwrnod arall.”