Ar ôl 40 mlynedd o waith cynhyrchu bydd ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cau ei drysau am y tro olaf heddiw (Medi 25).

Cyhoeddwyd y llynedd y byddai’r ffatri, sy’n cyflogi 1,700 o weithwyr, yn cau.

Mae’r mwyafrif o’r gweithwyr wedi dewis ailhyfforddi, tra bydd 120 yn aros ar y safle am ychydig fisoedd i helpu gyda’r gwaith datgomisiynu.

‘Diwrnod tywyll’

Dywedodd Peter Hughes, Ysgrifennydd Undeb Unite Cymru, fod hwn yn “ddiwrnod tywyll.”

“Mae heddiw yn ddiwrnod trist i’r holl weithwyr Ford o Gymru sydd yn colli eu swyddi heddiw,” meddai.

“Mae hefyd yn ddiwrnod tywyll i’r miloedd lawer o bobol eraill a fu hefyd yn gweithio yma dros y 40 mlynedd diwethaf.

“Llwyddodd Ffatri Ford ym Mhen-y-bont i ddal ei thir yn erbyn safleoedd Ford eraill ledled y byd trwy gydol y pedwar degawd hynny am un rheswm yn unig – ei gweithlu o safon fyd-eang.”

Yn gynharach eleni cafodd criwiau tân eu danfon i’r ffatri oherwydd tân ar y safle.