Mae Cymru wedi tynnu Denmarc, Gwlad yr Iâ, Slofacia a Curacao oddi ar ei rhestr eithrio rhag cwarantin, meddai’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.

Mae’n golygu y bydd yn rhaid i bobl sy’n teithio i Gymru o’r pedair gwlad dan sylw fynd i gwarantin am 14 diwrnod os byddant yn cyrraedd y Deyrnas Unedig ar ôl 4am ddydd Sadwrn (26 Medi).

Mae’r newidiadau’n adlewyrchu’r rhai a gyhoeddwyd ar gyfer Lloegr, tra bydd diwygiadau pellach i reoliadau teithio Cymru yn cynnwys eithriadau ar gyfer sêr chwaraeon, a staff digwyddiadau chwaraeon.

Dywedodd Mr Gething mewn datganiad:

“Heddiw, adolygais asesiadau diweddaraf y Gydganolfan Bioddiogelwch ac rwyf wedi penderfynu y bydd Curaçao, Denmarc, Gwlad yr Iâ a Slofacia yn cael eu tynnu o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio [rhag cyfyngiadau cwarantin].

“Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu diwygio’r rheoliadau ymhellach drwy ychwanegu eithriadau sectoraidd newydd ar gyfer timau pobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon elît a’u staff cymorth, gan gynnwys timau meddygol. Bydd digwyddiadau’n cael eu hychwanegu at y rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon penodedig.”