Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd, wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, Grant Shapps AS, i fynegi’i bryderon dwys am ei gyhoeddiad o £343m o arian “ychwanegol” ar gyfer y rheilffyrdd yng Nghymru.

Yn ei lythyr, mae Ken Skates yn dweud bod pecyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bell o fod yn ariannu teg, a bod tanfuddsoddi yn y rheilffyrdd yng Nghymru.

Mae hefyd yn dweud mai “dim ond trwy ddatganoli’r pwerau dros seilwaith rheilffyrdd i Lywodraeth Cymru” y mae modd unioni’r sefyllfa.

‘Tanfuddsoddi yn rheilffyrdd Cymru yn parhau’

“I bob golwg, ychydig iawn o’r pecyn sy’n arian ‘newydd’”, meddai Ken Skates yn ei lythyr.

“Er enghraifft, y £58m ar gyfer gorsaf ganolog Caerdydd. Yn wir, cafodd rhannau o’r pecyn, fel yr arian ar gyfer trydaneiddio’r Cymoedd, eu cyhoeddi nôl yn 2014.””

Mae Ken Skates hefyd yn cyfeirio at ymchwil diweddar Llywodraeth Cymru sy’n rhagdybio y gallai’r buddsoddiad o £50 biliwn  yn rhwydwaith rheilffyrdd Lloegr dros y degawd nesaf arwain at danwariant o £2.4biliwn ar reilffyrdd Cymru.

“Nid yw Cymru wedi cael profi’r lefel o fuddsoddi i wella seilwaith sydd wedi’i weld yn rhannau eraill y DU.

“Nid yw’r pecyn yn gwneud unrhyw beth i geisio unioni’r tanfuddsoddi parhaus a sylweddol yn seilwaith rheilffyrdd Cymru.

“Yn fy marn i, dim ond trwy ddatganoli’r pwerau dros seilwaith rheilffyrdd i Lywodraeth Cymru ynghyd â setliad cyllido llawn a theg, y mae gobaith unioni’r sefyllfa.”