Mae’r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans, a Ken Skates, Gweinidog yr Economi yn dweud nad oes digon o gefnogaeth ar gyfer y sectorau yr effeithir fwyaf arnynt yng Nghymru, megis dur ac awyrofod.

Cyhoeddodd y Canghellor, Rishi Sunak y cynllun fydd yn cymryd lle’r cynllun ffyrlo yn Nhŷ’r Cyffredin prynhawn ddoe (Medi 24).

‘Rhy hwyr’

“I rai gweithwyr mae’r cyhoeddiad hwn yn rhy hwyr,” meddai Rebecca Evans.

“Wedi pwyso am ragor o gymorth ar gyfer cymorthdaliadau cyflogau, dwi’n croesawu’r Cynllun Cefnogi Swyddi ond yn pryderu na ddaw gyda buddsoddiad newydd ar gyfer hyfforddi fydd yn hanfodol i ddiogelu bywoliaeth pobl yn y tymor hir.

“Er bod y mesurau munud olaf a gyhoeddwyd gan y Canghellor yn rhwystro’r canlyniadau gwaethaf o fod ar ochr dibyn y ffyrlo, mae angen gwneud mwy i helpu’r di-waith ddod o hyd i swyddi newydd ac i gymell cyflogwyr i ddod o hyd i weithwyr newydd.”

Cyhoeddodd cwmni awyrofod Airbus yn gynharach eleni eu bod yn bwriadu cael gwared a 1,435 o swyddi yn eu ffatri ym Mrychdyn yn Sir y Fflint ac mae pryderon am gwmni Tata Steel sy’n cyflogi 7,000 yng Nghymru.

‘Cymorth wedi ei dargedu’

Ychwanegodd Ken Skates fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn galw am gymorth penodol wedi ei dargedu at sectorau gwahanol.

“Tra bo’r cymhorthdal cyflogau yn ddatblygiad i’w groesawu, rydyn ni wedi bod yn galw am gymorth penodol i’r sector, ac nid yw cyhoeddiad heddiw yn gwneud dim i gynnig hynny”, meddai.

“Mae angen cymorth wedi ei dargedu, er enghraifft, at ein sector awyrofod, sy’n hanfodol i economi Cymru a’r Deyrnas Unedig a bywoliaeth miloedd o bobol, a heddiw mae nifer o swyddi yn parhau i fod mewn perygl mawr.

“Roedd gan y Canghellor gyfle gwirioneddol i gynnig y sicrhad oedd ei angen.

“Mae hefyd yn siom nad yw hyn yn darparu ar gyfer gweithwyr a busnesau pan ddaw i hyfforddi a gwella sgiliau.

“Mae’n amlwg mai’r gweithwyr sydd angen yr help hwnnw fwyaf fydd ar eu colled yn y tymor hir.”