Mae’r cwmni awyrofod Airbus wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu cael gwared a 1,435 o swyddi yn eu ffatri ym Mrychdyn yn Sir y Fflint.

Fe fydd 295 o swyddi hefyd yn diflannu yn eu safle yn Filton ym Mryste.

Roedd y cwmni cynhyrchu awyrennau eisoes wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu cael gwraed a 1,700 o swyddi yng ngwledydd Prydain o ganlyniad i’r argyfwng coronafeirws.

Dywedodd y Prif Weithredwr Guillaume Faury eu bod yn wynebu’r “argyfwng dwysaf y mae’r diwydiant hwn wedi’i brofi erioed”.

Mae’r newyddion yn ergyd enfawr i’w safle ym Mrychdyn yng ngogledd Cymru, lle mae adenydd yn cael eu cynhyrchu. Mae 6,000 o weithwyr yn gweithio yn y ffatri ym Mrychydyn.

Mae’r cwmni am dorri 15,000 o swyddi ar draws ei holl weithfeydd yn Ewrop.

“Effaith sylweddol”

Dywedodd y cwmni bod y diswyddiadau yn adlewyrchu’r “effaith sylweddol” mae’r argyfwng coronafeirws wedi’i gael ar y diwydiant cynhyrchu awyrennau yn y Deyrnas Unedig.

“Fe fydd Airbus yn parhau i gwrdd â’r undebau yn y Deyrnas Unedig er mwyn ceisio dod o hyd i ateb a fydd yn ein helpu i gyflwyno’r newidiadau yma tra’n ceisio lleihau effaith gymdeithasol yr argyfwng Covid-19 ar y cwmni.”

“Newyddion dychrynllyd”

Wrth ymateb i’r newyddion, mae Llyr Gruffydd, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Ogledd Cymru, wedi galw ar Lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i “gamu i’r adwy”.

“Rwyf newydd gael gwybod bod Airbus yn bwriadu torri 1,435 o swyddi ym Mrychdyn. Mwy nag yr oeddwn wedi’i ddisgwyl. Mae hyn yn newyddion dychrynllyd.

“Mae fy meddyliau gyda’r gweithwyr, eu teuluoedd a’r gymuned ym Mrychdyn. Rwy’n cyd-sefyll gyda nhw ac yn bwriadu gwneud popeth o fewn fy ngallu i’w cefnogi yn sgil yr ergyd ofnadwy hon.

“Rhaid i Lywodraethau Cymru a’r DU yn awr gamu i’r adwy a gwneud popeth posibl i gadw’r swyddi hyn ac eraill ar hyd y gadwyn gyflenwi.”

“Ergyd enfawr”

Dywedodd llefarydd busnes, yr economi a seilwaith y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George AS, bod y coronafeirws wedi arwain at “ostyngiad sylweddol yn nifer yr awyrennau sy’n hedfan a bod disgwyl i hynny barhau yn y dyfodol agos. Mae hefyd wedi cael effaith ar archebion am awyrennau, nid yn unig i Airbus ond ei gystadleuydd Boeing ac eraill hefyd.”

Ychwanegodd bod Brychdyn wedi ei effeithio’n bennaf am fod y safle yn cynhyrchu adenydd ar gyfer y farchnad sifil tra bod y safle ym Mryste yn darparu ar gyfer y sector milwrol.

“Mae hyn yn ergyd enfawr nid yn unig i Frychdyn ond i ogledd Cymru ac ar draws y ffin yn Lloegr lle mae rhai o’r gweithwyr yn byw. Fe fydd effaith sylweddol hefyd ar y rhai yn y gadwyn gyflenwi ym Mrychdyn.”

Ychwanegodd y bydd ei blaid yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i geisio delio gydag effaith y diswyddiadau diweddar yng Nghymru.

“Angen cymryd camau”

Mae pennaeth undeb Unite hefyd wedi rhybuddio y bydd y diwydiant awyrofod yn y Deyrnas Unedig yn chwalu os na fydd camau’n cael eu cymryd i rwystro hynny.

Dros y misoedd diwethaf mae sawl cwmni yn y maes wedi cyhoeddi eu bwriad i gael gwared a swyddi, ac yn ôl ymchwil Unite fe fydd cyfanswm o 12,000 o swyddi yn diflannu.