Bydd diwydiant awyrennau y Deyrnas Unedig yn chwalu os na fydd camau’n cael eu cymryd i rwystro hynny, yn ôl pennaeth undeb.
Dros y misoedd diwethaf mae sawl cwmni yn y maes wedi cyhoeddi eu bwriad i gael gwared a swyddi, ac yn ôl ymchwil Unite fe fydd cyfanswm o 12,000 swyddi yn diflannu.
Mae hyn yn cynnwys 1,700 o swyddi Airbus a gafodd ei gyhoeddi’r wythnos hon – mae’r cwmni’n “cynllunio ar gyfer colli cyfran sylweddol o’r swyddi ym Mrychdyn” yn Sir y Fflint.
Mae’r undeb wedi rhybuddio y gallai rhagor o swyddi ddiflannu, ac ar “raddfa fawr”, os na fydd gweithredu ar ran Llywodraeth San Steffan.
Beirniadu “inertia”
“Os na fydd gweithredu cynhwysfawr i gefnogi diwydiant awyrofod y Deyrnas Unedig yn awr, mi allai’r diwydiant penigamp yma ddiflannu,” meddai Steve Turner, Ysgrifennydd Cyffredinol Unite.
“Mae gweithwyr yn y maes yn Ffrainc a’r Almaen yn cael eu cefnogi gan eu llywodraethau, yn dal i weithio â thâl dechau, ac yn gweithio llai o oriau…
“Bydd diffyg gweithredu ein llywodraeth yn arwain at golled miloedd o swyddi, ac mi fydd mwy o’n busnes yn mynd dramor.”
Amodau yn “parhau’n heriol”
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cydnabod bod “amodau yn parhau’n heriol”, ond maen nhw wedi ymrwymo i gadw’r diwydiant yn fyw.
“Rydym yn deall bod y cyfnod yma yn un anodd i fusnesau a gweithwyr ledled y sector, ac rydym yn barod i gefnogi’r rheiny sy’n wynebu’r risg o golli eu swyddi,” meddai llefarydd.
“Mae’r sector yn parhau’n rhan allweddol o economi’r Deyrnas Unedig a byddwn yn parhau i weithio’n agos â’r diwydiant i sicrhau ei bod yn medru cael ei hailadeiladu.”