Mae sawl cerddor o Gymru ymhlith 1,500 o artistiaid sydd wedi galw am amddiffyn cerddoriaeth fyw yn ystod y cyfnod clo.

Mae’r llythyr wedi ei anfon at yr Ysgrifennydd Diwylliant, Oliver Dowden, ac mae Paul McCartney a The Rolling Stones ymhlith yr artistiaid sydd wedi arwyddo.

Ymhlith y cerddorion Cymreig sydd wedi llofnodi’r llythyr mae Cate le Bon, Manic Street Preachers, Gruff Rhys, Gwenno, Syr Tom Jones, Stereophonics, Feeder a 9Bach.

Mae sawl clwb a gŵyl hefyd wedi arwyddo llythyr The Concert Promoters Association gan gynnwys Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Clwb Ifor Bach, a Chlwb y Bont.

“Mae’r dyfodol yn llwm i gyngherddau a gwyliau, a’r cannoedd o filoedd o bobol sydd yn gweithio ynddyn nhw,” meddai’r llythyr.

“Tan fod y busnesau yma yn agor eto, sef 2021 ar y cynharaf mwy na thebyg, bydd cefnogaeth y llywodraeth yn allweddol wrth rwystro methdaliadau a diwedd y diwydiant penigamp yma.”

Ymateb yr Ysgrifennydd

Mae Oliver Dowden wedi ymateb mewn trydariad gan ddweud ei fod yn “gweithio’n galed” i fynnu eglurder i’r diwydiant.