Treuliwyd rhan helaeth o gynhadledd i’r wasg Llywodraeth Cymru heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 1) yn trafod trafferthion cwmni Airbus.

Mae Airbus yn wynebu’r “argyfwng dwysaf y mae’r diwydiant hwn wedi’i brofi erioed”, yn ôl y Prif Weithredwr, Guillaume Faury.

Ac mae’r cwmni cynhyrchu awyrennau wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu torri 1,700 o swyddi yng ngwledydd Prydain o ganlyniad i argyfwng y coronafeirws.

Ken Skates, Ysgrifennydd Economi Cymru
Ken Skates, Gweinidog yr Economi

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates, fod y cwmni’n “cynllunio ar gyfer colli cyfran sylweddol o’r swyddi ym Mrychdyn” yn Sir y Fflint, ond nad oes “unrhyw reswm” i feddwl mai ym Mrychdyn y byddai pob un o’r 1700 o swyddi yn cael eu colli.

Ond mynnodd bod Llywodraeth Cymru’n bwriadu “sefyll ochr yn ochr” gyda gweithwyr ac undebau.

“Nid dyma ddechrau’r diwedd i Airbus ym Mrychdyn,” meddai.

Uwchgynhadledd i gael ei chynnal yng Ngogledd Cymru

Mae Ken Skates wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu cynnal uwch-gynhadledd yn Ogledd Cymru er mwyn asesu dyfodol safle Airbus ym Mrychdyn.

Dywed y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cymorth i fusnesau sy’n rhan o’r gadwyn gyflenwi gyda’u Cronfa Cadernid Economaidd.

Yn hwyrach yn y gynhadledd, dywedodd Ken Skates fod Llywodraeth wedi darparu “buddsoddiad anhygoel” i safle Airbus ym Mrychdyn yn ogystal â’r busnesau sy’n gysylltiedig ag Airbus.

“Rydyn ni wedi cefnogi pob busnes sy’n gysylltiedig ag Airbus ym Mhrydain – sef y busnesau sy’n ffurfio rhan o gadwyn gyflenwi’r sector awyrofod,” meddai.

Galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddarparu cymorth

Defnyddiodd Ken Skates y gynhadledd i’r wasg i alw ar Ganghellor Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Rishi Sunak, i roi cymorth i’r diwydiant awyrofod.

Ymysg y camau y dywedodd Ken Skates a allai roi hwb i’r diwydiant mae dileu’r Dreth Teithwyr Awyr dros dro, ac annog cwmnïau i wneud eu gwaith cynnal a chadw yn y Deyrnas Unedig.

“Mae’n rhaid i ni symud yn sydyn a gyda’n gilydd – ar draws ffiniau daearyddol a gwleidyddol – er mwyn gwarchod y sector, gwarchod bywoliaeth y bobl sy’n gweithio yn y sector a chymunedau sy’n dibynnu ar y diwydiant,” meddai.

Llywodraeth Cymru’n ymrwymo i gefnogi pobol sy’n colli swydd

Mae Ken Skates hefyd wedi cyhoeddi y bydd pecyn cefnogaeth personol ar gael i bob unigolyn sy’n colli swydd yn sgil pandemig y coronafeirws.

Yn ôl Ken Skates, bydd y pecyn cefnogaeth personol hwn yn helpu pobol i “ddychwelyd i’r gwaith” drwy ganfod swydd newydd.

“Bydd unrhyw un sydd wedi colli eu swydd yn derbyn pecyn cefnogaeth wedi ei deilwra iddyn nhw’n bersonol,” meddai.

“Bydd hyn yn sicrhau bod yr arweiniad a chefnogaeth gywir ganddyn nhw er mwyn gallu dychwelyd i’r gwaith, neu hyd yn oed sefydlu eu busnes eu hunain os ydyn nhw’n awyddus i wneud hynny”.