Mae Ryanair wedi dweud y byddan nhw’n dechrau hediadau o Faes Awyr Caerdydd ar Gorffennaf  3 a 4.

Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bobl aros yn lleol heb deithio ymhellach na phum milltir, ond mae disgwyl i’r cyfyngiadau yma gael eu codi ar Mehefin 6, pan fydd hawl gan bobl “deithio mor bell ag y mynnan nhw, i bob pwrpas.”

Er hyn, ni fydd y diwydiant twristiaeth yng Nghymru yn agor tan yr wythnos ganlynol, Gorffennaf 13.

“Anghysondeb”

Ond mae’r Aelod o’r Seneddol Ceidwadol dros Ganol De Cymru, Andrew RT Davies, wedi tynnu sylw at anghysondeb y sefyllfa, gan ddweud bod Mark Drakeford a’i Weinidogion nawr yn “wynebu dewis clir; gollwng eu rheol pum milltir a chaniatáu i fusnesau ailagor yng Nghymru, neu gau’r maes awyr sy’n eiddo i’r cyhoedd.”

“Mae hwn yn ymateb eithaf truenus gan Lywodraeth Llafur Cymru wrth iddyn nhw feio Ryanair a’r tîm rheoli ym maes awyr Caerdydd wedi’r cywilydd o gael eu dal allan” meddai Andrew RT Davies.

“Rwyf am i bobl allu mynd ar wyliau a defnyddio fy maes awyr lleol, ond mae hyn wedi amlygu mwy o anghysondeb ym mholisi cloi Mark Drakeford – sef cadw busnesau twristiaeth a lletygarwch ar gau yng Nghymru, ond cefnogi diwydiannau o’r fath dramor.

“Prynodd Llywodraeth Lafur Cymru y maes awyr, ei hariannu […] ac roedd ganddyn nhw’r pŵer i atal hyn os oeddent wir eisiau gwneud hynny.”