Mae Golwg360 ar ddeall fod trefniadau mewn lle i gau cwmni argraffu Cambrian Printers yn Aberystwyth, gan roi dros 50 o swyddi yn y fantol.

Cafodd y cwmni teuluol sydd wedi bod yn argraffu ers 160 o flynyddoedd ei brynu gan argraffwyr Pensord, sydd wedi ei leoli yng Nghoed-duon ger Caerffili, yn 2017.

Dywedodd Llefarydd ar ran Cambrian Printers a chwmni Pensord wrth Golwg360:

“Mae’r enw Cambrian Printers wedi bod yn gonglfaen i gymuned Aberystwyth ers blynyddoedd lawer.

“Prynwyd y cwmni ychydig dros dair blynedd yn ôl i barhau â’r traddodiad hwnnw ymhell i’r dyfodol.

“Er gwaethaf Brexit ac amodau masnachu anodd dros y cyfnod hwnnw, rydym wedi llwyddo i wneud cynnydd, ac wedi llwyddo i sicrhau fod y cwmni yn creu elw unwaith eto yn 2018 a 2019.

“Rydym yn sicr nad ydym ar ein pennau ein hunain pan rydym yn dweud bod yr argyfwng sy’n ein hwynebu nawr, yn sgil y coronafeirws yn fynydd i’w ddringo.

“Rydym felly yn ystyried pa newidiadau y mae’n rhaid i ni eu gwneud i sicrhau parhad y busnes.

“Megis dechrau mae’r broses o gyfathrebu â gweithwyr, a gan nad ydym eto wedi cychwyn y broses ymgynghori ffurfiol â’r gweithwyr, ni fyddai’n briodol gwneud sylwadau pellach ar hyn o bryd.”

Cyfnod ofnadwy i fusnesau

Dywedodd y cynghorydd dros Lanbadarn Fawr, Gareth Davies, fod y newyddion yn “ergyd i Lanbadarn a’r ardal ehangach.”

Eglurodd y cynghorydd fod mwyafrif staff Cambrian Printers wedi eu rhoi ar gynllun gwarchod swyddi’r Llywodraeth, y cynllun ffyrlo, ers dechrau’r clo mawr, a bod y gwaith argraffu arferol wedi bod yn cael ei wneud o bencadlys cwmni Pensord yn y Coed-duon.

“Ond, mae’n rhaid cofio nad swyddi cyflog isel yw’r rhain, ond swyddi safonol”, meddai.

“Mae’n gyfnod ofnadwy ar hyn o bryd i fusnesau, dydyn ni erioed wedi gweld dim byd tebyg i hyn o’r blaen.

“Byddai colli Cambrian Printers, un o brif gyflogwyr yr ardal, yn ergyd enfawr i Aberystwyth a’r ardal eang tu hwnt o’r dref.”

Canolog i economi Ceredigion

Mae Elin Jones Aelod o’r Senedd dros Geredigion hefyd wedi rhoi gwybod i Golwg360 ei bod hi wedi codi’r mater gyda Ken Skates, Gweinidog yr Economi.

“Rwyf wedi codi’r mater hwn ar frys gyda Gweinidog yr Economi yn Llywodraeth Cymru, gan ofyn iddo weithio gyda’r Cyngor Sir i geisio cadw’r swyddi gwerthfawr hyn yng Ngheredigion.

“Rwyf wedi derbyn cadarnhad gan weithwyr yn y Cambrian Printers bod y cwmni wedi eu hysbysu ddydd Llun y byddai gwaith cynhyrchu ar y safle yn Llanbadarn Fawr, Aberystwyth yn cael ei drosglwyddo i’r Coed Duon ymhen mis.

“Mae’r sector argraffu a chyhoeddi yn ganolog i economi Ceredigion ac mae’r Cambrian Printers yn gwmni blaenllaw a hir-sefydlog yn y sector argraffu yng Nghymru. Mae sgiliau’r gweithlu hwn yn rhai gwerthfawr iawn.

“Mae’r gweithlu o tua 60 yn gofidio’n fawr am y newyddion hyn ac nid ydynt mewn unrhyw sefyllfa i symud 100 milltir i barhau i weithio i’r cwmni. Mae gan nifer ohonynt deuluoedd a chartrefi yma yng Ngheredigion.”

Cefndir y cwmni

Sefydlwyd Cambrian Printers yn 1860 i argraffu a chyhoeddi papur newydd y Cambrian News.

Cafodd y busnes ei brynu gan y teulu Read yn 1937 a bu’r busnes yn y teulu am 90 o flynyddoedd.

Gwerthwyd y cwmni gan Robert Read yn 2017 i gwmni argraffu Pensord.