Mae’r economegydd Dr John Ball yn dweud wrth golwg360 fod galwadau Boris Johnson ar i bobol glapio i’r bancwyr yn “nonsens llwyr”.

Mewn araith ar yr economi ddoe (dydd Mawrth, Mehefin 30), dywedodd Boris Johnson: “Wrth gwrs, rydym wedi bod yn clapio i staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ond mae’r Llywodraeth yn credu y dylem hefyd gymeradwyo’r sawl sy’n gwneud y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn bosib.

“Ein harloeswyr, y sawl sy’n creu cyfoeth, ein cyfalafwyr, ein cyllidwyr, oherwydd bydd eu parodrwydd nhw i gymryd risg gydag arian ei hunain yn hanfodol i’n llwyddiant yn y dyfodol”.

Ond yn ôl John Ball, “nonsens llwyr” yw hyn oherwydd “dyw’r banciau heb golli dim byd yn sgil y pandemig”.

“Mae banciau yn dal i chwarae rôl casglwyr trethi a’r realiti ydi bod unrhyw arian mae’r Llywodraeth yn ei ddarparu yn ystod y pandemig yn dod gan y banciau,” eglura.

“Mae yno nifer fawr o bobol sy’n derbyn 80% o’u cyflog drwy ffyrlo ond yn talu 100% o’u trethi.

“Dyw’r banciau heb golli dim byd yn sgil y pandemig, maen nhw wedi cario ymlaen yn ôl yr arfer – dydyn nhw heb ddarparu dim byd”.

“Ac ymhellach, doedd dim angen i’r Llywodraeth fenthyg gymaint ag y maen nhw wedi gwneud, byddai wedi bod yn hawdd argraffu mwy o arian gan fod chwyddiant ar 0%.”

“Felly mae’r syniad yma y dylem ni fod yn ddiolchgar neu hyd yn oed clapio i’r banciau yn nonsens llwyr.”

Annibyniaeth yn ffordd well o ddatblygu isadeiledd yng Nghymru

Ac mae John Ball yn feirniadol iawn o araith Boris Johnson ar adfer yr economi.

Yn ei araith, dywedodd Prif Weinidog Prydain fod angen gallu symud gyda “lefelau o egni a chyflymder na fu eu hangen ers cenedlaethau” yn sgil pandemig y coronafeirws.

Aeth yn ei flaen i ddweud nad yw e am i Brydain fod yn “garcharorion i’r argyfwng”.

Doedd dim sôn o gwbl am arian i Gymru yn yr araith, ac yn ôl John Ball “ychydig iawn o arian sydd yn y cynllun i adfer yr economi beth bynnag”.

Mae John Ball, sy’n aelod o Yes Cymru, yn grediniol mai Cymru annibynnol yw’r ffordd orau o sicrhau bod arian yng Nghymru i wario ar brosiectau isadeiledd.

“Mae angen gwaith isadeiledd mawr yng Nghymru, a buddsoddiad yn ein rheilffyrdd ac ati,” meddai.

“Petai Cymru yn wlad annibynnol, byddem yn gallu benthyg neu argraffu arian ein hunain yn hytrach na disgwyl am sbarion o Lundain.

“Byddwn hefyd yn pwysleisio bod Boris Johnson yn honni bod ei gynllun adfer bondigrybwyll yn mynd i fod o fudd i Gymru, sydd hefyd yn nonsens llwyr”.