Mae un o aelodau seneddol amlyca’r SNP yn rhybuddio y gallai’r blaid dynnu’n ôl o sefydliadau Prydeinig pe bai Boris Johnson yn parhau i wrthod rhoi’r hawl i’r Alban gynnal ail refferendwm annibyniaeth.
Ymhlith y sefydliadau hyn fyddai Tŷ’r Cyffredin, yn ôl Pete Wishart, sy’n rhybuddio y gallai’r blaid droi at yr Undeb Ewropeaidd a’r gymuned ryngwladol am gymorth.
Ond mae’n pwysleisio mai’r opsiwn mae’n ei ffafrio o hyd yw cynnal y refferendwm â sêl bendith Llywodraeth Geidwadol Prydain.
Serch hynny, mae Boris Johnson a’i ragflaenydd Theresa May wedi gwrthod cyhoeddi gorchymyn Adran 30 er mwyn cael trosglwyddo pwerau o San Steffan i Holyrood i gynnal yr etholiad.
Daw’r rhybudd wrth i’r polau diweddaraf awgrymu bod 54% o Albanwyr o blaid annibyniaeth erbyn hyn, ac mae rhai o fewn yr SNP o’r farn y byddai ennill mwyafrif o seddi yn etholiad yr Alban y flwyddyn nesaf yn rhoi mandad clir i gynnal trafodaethau annibyniaeth.
Mae Pete Wishart hefyd yn awyddus i sicrhau bod y blaid yn cynnwys datganiad o fwriad i gynnal refferendwm, er mwyn pwysleisio mai pleidlais dros annibyniaeth fyddai pleidlais dros yr SNP.
Blog Pete Wishart
Daw sylwadau Pete Wishart mewn blog.
“Os yw’r Deyrnas Unedig yn gwrthod cymryd rhan mewn refferendwm sydd wedi’i gytuno yn wyneb cefnogaeth fwyafrifol a mandad democrataidd clir, rhaid i ni gymryd eu bod nhw wedi penderfynu eu heithrio eu hunain o’u hymrwymiadau a’u cyfrifoldebau fel partner yn yr Undeb,” meddai.
“Yna byddai gennym sail i geisio sicrhau ein hannibyniaeth heb iddyn nhw gymryd rhan.
“Dylai hyn gynnwys refferendwm wedi’i ddylunio yn yr Alban lle caiff gwahoddiad olaf ei estyn i’r Deyrnas Unedig gymryd rhan er mwyn cyflwyno’r achos dros aros yn yr undeb.
“Dylid gwneud cais i’r Undeb Ewropeaidd roi sêl bendith i’r refferendwm hwn, a dylid gwneud pob ymdrech i’w cynnwys nhw wrth ddylunio’r refferendwm hwnnw.”
Ar yr un pryd, meddai, dylai Llywodraeth yr Alban amlinellu’r cynllun i ymuno â’r Undeb Ewropeaidd fel gwlad annibynnol.