Fe fydd Sioe Fawr Llanelwedd yn cael ei chynnal ar ffurf Sioe rithwir ar y we eleni.

Fel rhan o’r arlwy, bydd y trefnwyr yn cynnig sesiynau holi ac ateb a seminarau, yn ogystal â chyfle i ail-fyw rhai o uchafbwyntiau’r gorffennol.

Dywed y trefnwyr y bydd yn rhoi’r cyfle iddyn nhw addysgu pobol am fyd amaeth, cynnyrch Cymreig a’r amgylchedd, a’u bwriad yw manteisio ar y cyfle i ddenu mwy o bobol i’r diwydiant gan sicrhau ei ddyfodol am genedlaethau i ddod.

Daeth cadarnhad ar ddechrau ymlediad y coronafeirws ym mis Mawrth na fyddai modd cynnal y sioe yn ei ffurf arferol.

Ond mae’r trefnwyr eisoes wedi cadarnhau y bydd Sioe Fawr 2021 yn cael ei chynnal ar Faes y Sioe yn Llanelwedd rhwng Gorffennaf 19-22 y flwyddyn nesaf.

“Ynghyd â phedwar diwrnod cyffrous o gystadlaethau da byw, gydag ymgeiswyr yn teithio o bedwar ban i gystadlu, mae gan y Sioe rywbeth o ddiddordeb i bawb drwy ei hystod eang o weithgareddau, gan gynnwys coedwigaeth, garddwriaeth, crefftau, campau cefn gwlad, siopa, bwyd a diod, a rhaglen 12 awr bob dydd o adloniant, atyniadau ac arddangosfeydd cyffrous,” meddai datganiad ar wefan y Sioe.