Mae llythyr agored i Arweinydd Cyngor Caerdydd yn galw ar i gerflun Syr Thomas Picton gael ei ddisodli gan gofeb i’w ddioddefwr enwocaf – y ferch 14 oed Louisa Calderon.

Cafodd y ddeiseb ei threfnu gan bobol ifanc ar Banel Cynghori Is-Sahara (SSAP), ac mae dros 80 o ddinasyddion Caerdydd wedi cyd-lofnodi llythyr.

Yn ôl Fadhili Maghiya, Cyfarwyddwr SSAP, mae mudiad #MaeBywydauDuOBwys (Black Lives Matter) yng Nghymru wedi gweld llawer o bobol ifanc yn codi i gondemnio a mynd i’r afael ag anghyfiawnderau hanesyddol a hiliol.

“Mae angen i ni sicrhau bod y naratif yn cael ei newid i adlewyrchu mwy o gydbwysedd wrth adrodd ein hanes,” meddai.

“Mae stori Louisa Calderon a’i chamdriniwr, Thomas Picton, yn rhan o hanes Cymru.

“Mae ei stori’n cynrychioli cannoedd ar filoedd mwy. Mae angen dweud eu stori.”

Louisa Calderon

Roedd rheolaeth Thomas Picton o ynys Trinidad yn awdurdodaidd a chiaidd, ac arweiniodd hyn at achos yn ei erbyn yn 1806 yn ei gyhuddo o arteithio Louisa Calderon.

Cyfaddefodd Thomas Picton iddo ei harteithio, a chafwyd e’n euog gan reithgor yn Lloegr.

Fodd bynnag, chafodd e mo’i ddedfrydu ac yn 1808, cafwyd e’n ddieuog.

“Wrth i gerfluniau masnachwyr caethweision barhau i gael eu tynnu i lawr ar draws y byd, mae’n anochel yn cyflwyno’r cwestiwn beth ddylid ei wneud â’r plinthau gwag y mae’r cerfluniau hyn yn eu gadael ar ôl a sut dylid mynd i’r afael â’u hanes,” meddai’r llythyr agored.

“Mae’r rhain yn gwestiynau y dylai’r cymunedau lle mae’r cerfluniau hyn wedi bod yn sefyll eu hateb.

“Yn wir, yn achos cerflun Picton, dylai trigolion Caerdydd gael llais.”

Symud ymlaen

Dywedodd Takura Aldridge, Ieuenctid SSAP eu bod yn gofyn am gymorth arweinwyr “nad oes ofn arnyn nhw wynebu’r gorffennol er mwyn symud ymlaen”.

“Ond fel pobl ifanc BAME, nid oes ofn arnom wneud hyn ar ein pen ein hunain, er y byddai’n well pe byddai’r cyngor a sefydliadau eraill yn ymuno â ni,” meddai.