Mae datblygwyr y Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd wedi mynd i’r wal yn dilyn dyledion gwerth £113m i gredydwyr.

Signature Living, cwmni Lawrence Kenwright, oedd rhiant-gwmni cyfres o 60 o westai, datblygiadau tai a sawl busnes arall gan gynnwys yr adeilad hanesyddol yng Nghaerdydd.

Ymhlith adeiladau eraill y cwmni roedd y Shankly Hotel a 30 James Street yn Lerpwl, a’r George Best Hotel yn Belffast.

Mae lle i gredu bod o leiaf hanner dwsin o gwmnïau cysylltiedig bellach yn nwylo’r gweinyddwyr hefyd, gyda dyledion y cwmni’n werth £113,331,594, a bod gweinyddwyr bellach o’r farn nad oes modd achub y cwmni, ac y bydd yn cael ei ddiddymu ar ôl i waith y gweinyddwyr ddod i ben.

Cymorth

Daw hyn bedwar mis yn unig ar ôl i Gyngor Caerdydd gynnig benthyciad o £2m i’r grŵp ‘Signature Living’ i’w helpu i orffen y datblygiad dadleuol.

Mae cyfrifon diweddaraf ‘Signature Living Coal Exchange’ ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar Fawrth 31, 2018, yn dangos bod ganddyn nhw asedau gwerth £10.4m a dyledion o  £19m.

Mae gwesty’r Exchange yn rhan o bortffolio o westai sy’n eiddo Lawrence Kenwright, datblygwr yn Lerpwl, sy’n cynnwys gwesty’r prif gwmni Shankly yng nghanol Lerpwl a gwesty moethus George Best yn Belfast.

Aeth y ddau hyn i ddwylo’r gweinyddwyr fis diwethaf, ynghyd â Signature Living Hotel Limited, a arferai fod yn rhiant-gwmni i’r Gyfnewidfa Lo.

Yn 2016, pan ddechreuodd Signature Living adnewyddu’r Gyfnewidfa Lo ym Mae Caerdydd, roedd yn un o’r busnesau a oedd yn tyfu gyflymaf yn y wlad.

Fel llawer yn y sector lletygarwch, mae’r pandemig coronafeirws wedi eu bwrw’n galed.