Mae Bro360 yn gynllun gan gwmni Golwg i greu rhwydwaith o wefannau bro. Dros y flwyddyn a hanner diwethaf mae’r tîm wedi cydweithio â chymunedau yn Arfon a Cheredigion i greu chwech o wefannau straeon lleol – y lle ar y we i’r lleisiau lleol. Dyma flas o’r fideos, blogs ac erthyglau sydd wedi’u cyhoeddi gan bobol y filltir sgwâr, am eu milltir sgwâr yn wythnos ola mis Mehefin…
“Rhaid gwarchod enwau lleoedd” yw cri Ieu Wyn
“Yr enw ar y draethell raean ar lan Llyn Idwal ydy’r Ro, ond erbyn hyn mae’r enw ‘Idwal Beach’ wedi ymddangos.” Un enghraifft o nifer yw hon, o sut mae enwau lleoedd Cymraeg yn Nyffryn Ogwen yn cael eu disodli gan yr iaith fain.
Wrth i’r galw am ddeddf i warchod enwau lleoedd Cymraeg gynyddu, cyhoeddodd Ieuan Wyn erthygl ar Ogwen360 lle mae’n rhannu 10 peth y gallwn ni i gyd eu gwneud er mwyn gwarchod ein henwau lleoedd cynhenid.
Gohirio Ewros 2020 – newyddion da i Gymru?
Cyfle i rai chwaraewyr wella o’u hanafiadau, cyfle i’n talent ieuengaf ddatblygu’n chwaraewyr gwych, a chyfle i Giggs arbrofi gyda strwythurau newydd…
Mewn erthygl ar-lein gan bapur bro Eco’r Wyddfa, Mared Rhys sy’n edrych yn ôl ac ymlaen at y gystadleuaeth bêl-droed ryngwladol, gan geisio darogan tynged y Cymry… pan ddaw haf 2021!
Gohirio Ewros 2020 – Newyddion da i Gymru?
Ac os ydych chi hefyd yn obeithiol am Ewros 2021, mae cerdd hyfryd gan Steffan Jones o Ysgol Llanilar ar BroAber360 –
“Pob lwc i Dic y rhedwr!”
Mae eicon rhedeg Ceredigion, Dic Evans, ar fin cwblhau her o redeg 1000 i filltiroedd mewn 100 diwrnod i godi arian i Uned Chemotherapi Ysbyty Bronglais. Penderfynodd ei gefnogwyr a rhai o’r rhedwyr y mae wedi’u helpu ar hyd y blynyddoedd greu fideo ar BroAber360 i ddymuno lwc dda iddo – dyma fideo yr wythnos.
Straeon poblogaidd y gwefannau bro yr wythnos hon
- Gwobr Prif Fridiwr Gwarffynnon ar Clonc360
- Cyfweliad â Dyfed Thomas o Seland Newydd ar Clonc360
- Ysgolion Ceredigion ddim am agor am wythnos ychwanegol