Anghydffurfiaeth oedd y prif gyfrwng i gynnal a hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith gyhoeddus ar ddechrau, ac i raddau drwy gydol, y ganrif ddiwethaf. Wrth addoli ar y Sul ac yn yr amrywiol gyfarfodydd ganol wythnos a drefnwyd gan y capeli, roedd y Cymry yn arfer eu hiaith mewn modd swyddogol gyhoeddus.