Ar ddiwrnod cyntaf cyfnod y cloi, roedd copïau o gasgliad newydd o gerddi’r bardd Eurig Salisbury, Llyfr Gwyrdd Ystwyth, newydd gael eu hargraffu.

Ac yntau’n byw yn Aberystwyth, mae’n siŵr ei bod hi wedi bod yn anodd iddo feddwl am focseidiau o’i lyfr sgleiniog newydd filltir neu ddwy lan yr hewl, yn segur ar lawr Gwasg y Lolfa yn Nhal-y-bont.