Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

The Killing Snows gan Charles Egan – nofel ddirdynnol am hanes y newyn mawr yn Iwerddon. Mae o’n waith darllen anodd. Mae hi, o be wela i, yn stori gwerth ei darllen.

Y llyfr a newidiodd fy mywyd

Cysgod y Cryman gan Islwyn Ffowc Elis oedd y llyfr a agorodd fy meddwl am y tro cyntaf i’r posibiliadau o allu ymgolli mewn stori dda.