Mae Airbus yn wynebu’r “argyfwng dwysaf y mae’r diwydiant hwn wedi’i brofi erioed”, yn ôl y Prif Weithredwr Guillaume Faury.

Mae cwmni cynhyrchu awyrennau wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu torri 1,700 o swyddi yng ngwledydd Prydain o ganlyniad i’r argyfwng coronafeirws.

Mae’r newyddion yn ergyd enfawr i’w safle ym Mrychdyn yng Ngogledd Cymru, lle mae adenydd yn cael eu cynhyrchu, ac mae pryderon y gallai dau draean o’r swyddi gael eu colli yn y safle hwnnw.

Mae ffatri arall yn Filton ym Mryste.

Mae’r cwmni am dorri 15,000 o swyddi ar draws ei holl weithfeydd ar draws y byd.

Mewn datganiad dywedodd y cwmni fod Airbus wedi cyhoeddi cynlluniau i addasu ei weithlu byd-eang ac i newid maint ei weithgarwch awyrennau masnachol mewn ymateb i argyfwng Covid-19.

“Disgwylir i’r addasiad hwn arwain at ostyngiad o ryw 15,000 o swyddi erbyn haf 2021 fan hwyraf,” meddai.

“Mae’r broses wybodaeth ac ymgynghori gyda phartneriaid cymdeithasol wedi cychwyn gyda’r bwriad o gyrraedd cytundebau i’w gweithredu gan ddechrau yn Hydref 2020.”

‘Argyfwng dwys’

Dywed Airbus fod gweithgarwch busnes awyrennau masnachol wedi gostwng bron 40% yn y misoedd diwethaf wrth i’r diwydiant wynebu argyfwng “digyffelyb”, a does dim disgwyl i drafnidiaeth awyr adfer i lefelau cyn-Covid cyn 2023 ac o bosibl mor hwyr â 2025.

Dywed Airbus ymhellach na allan nhw ddiystyru diswyddiadau gorfodol ar hyn o bryd, gan ychwanegu y byddan nhw’n gweithio gyda’u partneriaid cymdeithasol i gyfyngu ar effaith y cynlluniau drwy ddibynnu ar yr holl fesurau cymdeithasol sydd ar gael, gan gynnwys ymadawiadau gwirfoddol, ymddeoliadau cynnar, a chynlluniau diweithdra hirdymor rhannol lle y bo’n briodol.

Mae Airbus hefyd yn bwriadu torri 5,000 o swyddi yn Ffrainc, 5,100 yn yr Almaen, 900 yn Sbaen a 1,300 o’u safleoedd eraill ledled y byd.

‘Dinistriol’

“Dyma weithred arall o fandaliaeth ddiwydiannol a sarhad ofnadwy ar ein gweithlu anhygoel ym Mhrydain sy’n haeddu cymaint gwell gan ein Llywodraeth ni,” meddai Steve Turner, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol Unite.

“Dros wythnosau’r argyfwng hwn, mae swyddi awyrofod y wlad hon wedi mynd dros ben llestri ac eto, does yna’r un gair o gefnogaeth neu weithred o gymorth wedi dod i law gan y Llywodraeth.

“Mae Llywodraeth Prydain yn gwylio o’r cyrion tra bod ased cenedlaethol yn cael ei ddinistrio.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywed Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, fod y newyddion hyn yn hollol ddinistriol.

“Heno bydd nifer enfawr o weithwyr yn Airbus yn poeni’n fawr am y cyhoeddiad hwn – mae fy meddyliau i gyda nhw a’u teuluoedd,” meddai.

“Fel Llywodraeth Cymru, byddwn yn sefyll ochr yn ochr â’r cwmni, ei weithlu, yr undebau a’r cymunedau y mae hyn yn effeithio arnyn nhw – a byddaf yn nodi mwy o fanylion am ymateb Llywodraeth Cymru yfory.

“Ddylai neb fod o dan unrhyw gamargraff ynghylch yr effaith y mae Covid yn ei chael ar awyrofod, sy’n rhan hanfodol o economi Cymru.

“Mae’r sector mewn argyfwng ac mae angen i Lywodraeth Prydain gymryd camau cyflym a phendant nawr i achub y diwydiant a’i gadwyn gyflenwi. Mae clychau’n seinio ers wythnosau ac mae angen camau brys arnom ar lefel Brydeinig i atal yr argyfwng hwn rhag mynd yn waeth fyth.”