Fe fydd Eurostar yn dechrau cynnig teithiau eto o Lundain i Amsterdam yr wythnos nesaf, ac i Disneyland Paris fis nesaf.
Bydd y llwybr i brifddinas yr Iseldiroedd yn agor eto ar Orffennaf 9, tra bydd y llwybr i un o brif atyniadau prifddinas Ffrainc yn ailagor ar Awst 2.
Er y bydd modd teithio’n uniongyrchol o Lundain i Amsterdam, bydd rhaid i deithwyr i’r cyfeiriad arall newid trên ym Mrwsel, prifddinas Gwlad Belg, lle bydd gwiriadau pasbort a sgrinio diogelwch yn cael eu cynnal.
Bu’r llwybrau ynghau ers mis Mawrth yn sgil y coronafeirws a’r diffyg galw am deithiau yn sgil hynny.
Wrth gynnig teithiau eto, mae Eurostar hefyd yn cynnig rhywfaint o hyblygrwydd, gan alluogi teithwyr sy’n bwcio am weddill y flwyddyn i addasu eu trefniadau hyd at 14 diwrnod cyn teithio, a hynny heb godi ffi ychwanegol.
Bydd rhaid i bob teithiwr wisgo mwgwd fel rhan o fesurau hylendid ychwanegol, tra bydd rhaid i deithwyr gadw pellter oddi wrth ei gilydd a threnau’n cael eu glanhau’n drylwyr.