Fe fydd dadl ar ddysgu hanes du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yn cael ei chynnal yn y Senedd ar ôl i fwy na 34,000 o bobol lofnodi deiseb yn galw am ei wneud yn rhan orfodol o’r cwricwlwm yng Nghymru.

Dywed y ddeiseb y dylid dysgu am gaethwasiaeth a gwladychu ar gymunedau BAME ledled Prydain.

Heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 1), bydd y ddadl yn cael ei chynnal yn dilyn cynnig gan Blaid Cymru, sy’n dweud nad oes gorfodaeth ar ysgolion i ddysgu’r pwnc ar hyn o bryd.

Y dadleuon

Yn ôl Siân Gwenllian, llefarydd addysg y blaid, mae protestiadau Black Lives Matter yn ddiweddar yn dangos bod angen i’r hanes gael ei ddysgu mewn ysgolion.

“Dydy Bil y Cwricwlwm Llywodraeth Cymru ddim ar hyn o bryd yn ei gwneud hi’n orfodol i unrhyw ysgol ddysgu hanes Cymru na hanes du,” meddai.

“Yn hytrach, mae’n gadael yr elfennau hynny at ddisgresiwn ac yn benderfyniad i ysgolion unigol.

“Mae cael cwricwlwm sy’n llwyr ben agored yn golygu na fydd pob disgybl yn cael y cyfle i ddysgu am faterion rydyn ni’n credu eu bod nhw’n allweddol i greu cymdeithas fwy cydradd a llewyrchus ac wrth ffurfio dinasyddion sy’n ymwybodol o’u gorffennol.

“Ond mae gwneud yr elfennau hyn yn rhan statudol o’r cwricwlwm newydd yn cynnig cyfle hanesyddol i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb strwythurol yng Nghymru, ac i sicrhau bod y system addysg yn creu Cymru gydradd a chynhwysol i bawb yn y dyfodol.

“Bydd yn sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o blant a phobol ifanc yng Nghymru yn dysgu am wrth-hiliaeth ac amrywiaeth Cymru – ac y gallan nhw weld y byd trwy ffenest y wlad lle maen nhw’n byw – Cymru.”

‘Nid mater o un wers nac un pwnc yw hanes’

Bydd drafft Bil y Cwricwlwm yn cael ei gyhoeddi ar Orffennaf 8.

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod hi’n bwysig i ddysgu fod yn gynhwysol ac i dynnu ar brofiadau a threftadaeth ddiwylliannol Cymru gyfoes.

“Yn y cwricwlwm newydd, bydd dysgwyr yn archwilio’r cyd-destunau lleol, cenedlaethol a byd-eang ym mhob agwedd ar ddysgu, ac yn gwneud cysylltiadau ac yn datblygu dealltwriaeth o fewn cymdeithas amrywiol,” meddai.

“Byddwn ni’n cydweithio ag estyn er mwyn sicrhau bod eu hadolygiad o hanes Cymru’n cymryd i ystyriaeth lawn hanes, hunaniaeth a diwylliant Cymru a BAME yn ehangach – a byddwn ni’n sefydlu gweithgor i oruchwylio’r gwaith o ddatblygu adnoddau dysgu a nodi bylchau yn yr adnoddau neu hyfforddiant presennol.

“Nid mater o un wers nac un pwnc yw hanes.”