Mae rheolwr gyfarwyddwr cwmni loris Mansel Davies wedi beirniadu sylwadau un o’u gweithwyr am fandaliaeth wal Cofiwch Dryweryn ger Llanrhystud.
Fe ddaeth i’r amlwg ddoe (dydd Mawrth, Mehefin 30) fod y wal adnabyddus wedi cael ei phaentio â swastika a symbol goruchafiaeth pobol â chroen gwyn.
Roedd y digwyddiad yn destun sgwrs rhwng tri dyn – Stuart Davies, Steve Hughes a Tim Cannock.
Dechreuodd y sgwrs wrth i Stuart Davies ofyn i’r ddau arall, “Y math anghywir o hiliaeth?”
Atebodd Tim Cannock drwy ddweud, “Nid fi oedd e, ond mae hynny’n blydi ffantastic”, gan ychwanegu emoji bys bawd i fyny.
Ymateb y cwmni
Mae Stephen Mansel Davies wedi ymateb i’r sylwadau ar Twitter ar ôl i bobol dynnu ei sylw atyn nhw.
Eglurodd fod dau o’r dynion bellach wedi gadael y cwmni, ac y byddai’n “siarad â’r trydydd”.
“Dw i na’r cwmni ddim yn cefnogi’r math yma o fandaliaeth na sylwadau, dydy 2 allan o’r 3 gyrrwr y mae sôn amdanyn nhw yma ddim yn gweithio i’r cwmni bellach, a byddwn ni’n siarad â’r trydydd gan na fyddwn ni’n godde’r math yma o ymddygiad,” meddai.
“Gadewch i ni obeithio y bydd y fandaliaid yn cael eu dal yn fuan.”
Myself or the company do not support this type of vandalism or comment, 2 of the 3 drivers mentioned no longer work for the company, the third will be spoken to as we will not tolerate this type of behaviour. Let’s hope the vandals get caught soon.
— Stephen Davies (@stephenmansel) June 30, 2020