Mae Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn dathlu 60 mlynedd fel gwlad annibynnol, ac mae’r Arlywydd Felix Tshisekedi yn addo dileu’r llygredd sydd wedi bod yn bla ers iddi dorri’n rhydd oddi wrth Wlad Belg.

Yn sgil ymgyrch Black Lives Matter, mae cofebion i’r Brenin Leopold II wedi’u tynnu i lawr yng Ngwlad Belg yn sgil ei ymdriniaeth o drigolion y Congo pan oedd e’n teyrnasu.

Dydy Gwlad Belg ddim wedi ymddiheuro’n swyddogol, ond mae’r brenin Philippe wedi mynegi “edifeirwch” am “weithredoedd treisgar a chreulon” a “dioddefaint a sarhad” yn ystod blynyddoedd yr ymerodraeth.

Daeth y Congo yn rhan o Wlad Belg yn 1908 ond ar ôl ennill ei hannibyniaeth eto yn 1960, roedd Mobutu Sese Seko wrth y llyw am 32 o flynyddoedd.

Cafodd ei olynydd ei lofruddio cyn i fab Seko arwain am 18 mlynedd.

Daeth Felix Tshisekedi yn arweinydd y llynedd yn dilyn proses etholiadol hir.

“O annibyniaeth hyd heddiw, prif effaith ein polisi gwleidyddol oedd lleihau effeithlonrwydd, lleihau cyfrifoldeb ac yn y pen draw, methu â gwneud cyfiawnder,” meddai.