Bydd ysgolion yn Ynys Môn yn ailagor rhwng Gorffennaf 13 a Gorffennaf 17, fel rhan o gynllun “Ailgydio, Dal i Fyny, Paratoi ar gyfer yr Haf a mis Medi” Llywodraeth Cymru.

Daw’r penderfyniad ar ôl i Iechyd Cyhoeddus Cymru gadarnhau nad oes tystiolaeth i awgrymu bod yr achosion o’r coronafeirws ymysg staff ffatri Two Sisters yn Llangefni wedi arwain at gynnydd yn nifer yr achosion o fewn y gymuned.

Nawr, bydd yr ysgolion yn cysylltu â rhieni er mwyn amlinellu’r cynlluniau sydd ar y gweill at yr adeg pan fydd plant yn dychwelyd ar gyfer wythnos olaf tymor yr haf.

“Mae ein Penaethiaid, athrawon a staff ategol wedi gweithio’n ofnadwy o galed yn y cefndir er mwyn sicrhau bod modd i blant a staff ddychwelyd i amgylchedd dysgu diogel,” meddai Rhys Howard Hughes, Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc Cyngor Ynys Môn.

“Credwn mai’r penderfyniad cywir erbyn hyn yw agor yr ystafelloedd dosbarth ar Orffennaf 13 a’i bod yn bwysig bod modd i blant, os ydynt yn dewis gwneud hynny, ddychwelyd ar gyfer wythnos olaf tymor yr haf.

“Yn y pen draw, bydd yn rhaid i rieni wneud y penderfyniad i anfon eu plant yn ôl i’r ysgol ai peidio – ond, hoffwn dawelu eu meddyliau ein bod yn cydweithio â phartneriaid er mwyn gwneud ysgolion mor ddiogel â phosibl.”

Mae ysgolion nawr yn ystyried mesurau cadw pellter cymdeithasol, glanhau ychwanegol, cyflenwadau cyfarpar diogelu personol a chludiant ysgol.

Cefnogi’r penderfyniad

Dywed Gwyn Pleming, Cadeirydd Fforwm Strategol Ysgolion Cynradd ac Aaron Bayley, Cadeirydd Fforwm Strategol Ysgolion Uwchradd, ei fod yn cefnogi’r penderfyniad i ail agor ysgolion.

“Iechyd a diogelwch ein plant a’n staff sydd wedi dod gyntaf bob amser wrth i ni gynllunio i groesawu’r disgyblion yn ôl,” meddai.

“Rydym yn deall y bydd rhieni a phlant yn bryderus ac y bydd ganddynt nifer o gwestiynau – mae hynny’n naturiol.

“Bydd yr ysgolion bellach mewn cysylltiad er mwyn egluro mwy am yr hyn fydd ar gael i blant pan fyddant yn dychwelyd i’r ysgol ac er mwyn darparu rhieni â’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt.”