Mae Vaughan Gething yn dweud ei fod e’n deall pryderon pobol am achosion o’r coronafeirws mewn gweithfeydd bwyd, ond fod yr achosion eu hunain yn profi bod y sytem brofi ac olrhain yn gweithio.

Yn ddiweddar mae dau achos o coronafeirws wedi amlygu mewn gweithfeydd prosesu bwyd yn y gogledd, gyda nifer fawr o’r gweithwyr wedi derbyn canlyniadau positif am Covid-19 yn ffatri Two Sisters yn Llangefni a Rowan Foods yn Wrecsam.

Mae ymchwiliad hefyd yn ffatri Kepak ym Merthyr Tydfil yn y de.

Yn ôl y Gweinidog Iechyd heddiw yn y gynhadledd ddyddiol, mae yna:

  • 216 o achosion o’r coronafeirws yn ffatri Two Sisters yn Llangefni ac mae’r gweithle yn parhau ar gau
  • 237 wedi profi’n positif am y coronafeirws yn Rowan Foods yn Wrecsam, gyda dros 1,100 o bobol wedi eu profi.
  • 130 o achosion wedi eu cadarnhau yn Kepak ym Merthyr Tudful ers Ebrill, a chafodd 101 o’r achosion eu cadarnhau allan o’r 810 o bobol a gafodd eu profi ddydd Sadwrn, Mehefin 27.

Monitro

“Rydw i’n gwybod fod y nifer o achosion yn yr ardaloedd yma yn achosi pryder i bobl,” meddai Vaughan Gething.

“Ond mae yna lawer iawn o brofion wedi eu cynnal fel rhan o’r gwaith o ymchwilio a rheoli’r achosion yma’n gyflym.

“Rydyn ni’n monitro’n agos er mwyn gweld unrhyw arwyddion o achosion sydd yn lledaenu i’r gymuned.”

Dywed nad yw’r cynnydd mewn niferoedd ynddo’i hun yn arwydd fod yr haint yn cael ei drosglwyddo i bobol y tu hwnt i’r gweithwyr o fewn y gweithfeydd yma.

“Mae hyn yn dangos bod ein system ‘profi, olrhain, gwarchod’ yn gweithio’n iawn.

“Mae hyn yn ein hatgoffa ni fod y coronafeirws yn dal gyda ni, ac mae angen i ni gyd ddilyn y cyngor a chymryd gofal i warchod ein hunain, ein hanwyliaid a phobol efallai na wnawn ni fyth eu cyfarfod.”