Mae Ynys Môn gam yn nes at dderbyn statws arbennig i’w gwarchod fel etholaeth seneddol.

Daw’r newyddion ar ôl i aelodau seneddol dderbyn gwelliant i fesur a fyddai’n cwtogi nifer yr etholaethau yng Nghymru o 40 i 35.

Fe fyddai’r statws yn gosod Ynys Môn ochr yn ochr ag ynysoedd Orkney, Shetland ac ynysoedd Gorllewin yr Alban, ac Ynys Wyth yn Lloegr.

Nododd Maria Miller, wrth gyflwyno’r gwelliant fod gan “bobol Ynys Môn hunaniaeth gref ar sail canrifoedd o fod ar wahân i’r prif dir”, a chyfeiriodd hi at yr ynys fel Môn Mam Cymru.

Dywedodd ymhellach fod y statws yn gwarchod “daearyddiaeth, hanes a diwylliant nodedig Ynys Môn”.

Mae Virginia Crosbie, aelod seneddol Ceidwadol yr ynys, wedi cael ei chanmol am ei gwaith ar yr ymgyrch.

Dywedodd ei bod hi “wrth ei bodd” yn dilyn canlyniad y bleidlais a bod “Ynys Môn un cam yn nes at ddod yn etholaeth warchodedig”.

“Dw i’n gwybod pa mor bwysig yw hyn i bobol Ynys Môn a dw i wedi cefnogi’r gwelliant yn ddiwyd ar eu rhan nhw.”