Mae Liz Saville Roberts wedi lambastio araith Boris Johnson ar yr economi, gan ddweud ei bod hi’n “anhygoel gweld rhywun yn dweud gymaint sy’n meddwl cyn lleied”.

Mae hi hefyd wedi bod yn gyflym iawn i nodi na chafodd unrhyw brosiect newydd yng Nghymru ei gyhoeddi yn yr araith.

“Byddai diffyg sylwedd, amhenodol ac yn llawn mwydro yn adolygiad clên i’r araith hon,” meddai Liz Saville Roberts.

“Roedd hi’n anhygoel yn dweud gymaint sy’n golygu cyn lleied.

“Wnaeth araith heddiw ddim cymryd sylw oddi ar y ffordd drychinebus mae’r Llywodraeth wedi mynd i’r afael ag argyfwng y coronafeirws, dim ond ein hatgoffa o’r diffyg cyllid sydd gan wasanaethau eisoes.”

Yr araith

Yn ei araith, dywedodd prif weinidog Prydain bod angen gallu symud gyda “lefelau o egni a chyflymder na fu eu hangen ers cenedlaethau” yn sgil pandemig y coronafeirws.

Aeth yn ei flaen i ddweud nad yw e am i Brydain fod yn “garcharorion i’r argyfwng”.

“Rydym yn paratoi nawr, yn araf, yn ofalus, i ddeffro o’n trwmgwsg ac rwy’n credu ei bod hi’n hanfodol ein bod yn cynllunio’r ffordd ymlaen fel bod pawb yn gallu meddwl a chynllunio ar gyfer y dyfodol agos, canolig a thymor hir.

“Oherwydd os yw’r argyfwng Covid wedi dysgu un peth i ni, mae’n rhaid i’r wlad hon fod yn barod am beth bynnag sydd i ddod, a byddwn angen symud ymlaen gyda lefelau o egni a chyflymder na fu eu hangen ers cenedlaethau”.